Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pechodau

pechodau

Ni allwn ond cyffesu ein pechodau ger dy fron a deisyf dy faddeuant.

Ni esbonnir y rhesymeg sy'n cysylltu gollwng gwaed â symud pechodau.

Chei di ddim mynd o gwmpas yn cario baich pechodau'r byd ar dy ysgwyddau, mewn sefyllfa lle nad oes bai arnat ti o gwbl, pr'un a wyt ti am wneud hynny ai peidio.

'Roedd elfennau dyhuddol a phuredigol yn yr aberth hwn, gyda Christ yn ei uniaethu ei hun â dyn er mwyn wynebu'r digofaint dwyfol yn ogystal â symud pechodau dynol (Gal.

"Mi fydd pobol Cwmystwyth wedi cyrraedd y Nefoedd yn eu clocsiau tra bydd pobol Aberystwyth yn cerdded y prom yn eu slipers." Honnir iddo unwaith ddweud wrth gynulleidfa fod eu pechodau, "cyn ddued a chachu mochyn".

Bevan, Rheithor y Gelli, at anghyfreithlondeb a meddwdod fel pechodau cyffredin yr ardal.

Felly mae'n un sydd yn gallu gwneud camgymeriadau a chyflawni pechodau.

Roedd llawer iawn o fân ladrata, anwiredd, twyll, meddwdod a diogi ymysg y werin bobl fwyaf annysgedig, nad edrychent ar y rhain fel pechodau o gwbl.

Mae anfon adroddiad adref o feysydd tramor heb yr hyn a elwir yn ddarn i gamera yn uchel ar restr pechodau marwol yr adran newyddion.

Yng ngwlad Pwyl gellid claddu pechodau o dan yr ysgawen gan y byddai'r goeden yn eu derbyn.

Nid syndod yw gweld bod 'yr anniwair' a'r 'nwydwyllt' yn cael lle anrhydeddus yng nghatalog pechodau'r cyfnod.

A thestun ei orfoledd yw fod Iesu Grist wedi cymryd y bai am ein pechodau a marw'r farwolaeth yr oedd ef, y pechadur, yn ei haeddu.

A bydd ymateb Duw yn drugarog: bydd yn rhoddi maddeuant yn rhad am y pechodau mwyaf, os bydd y pechadur yn edifarhau a throi oddi wrth ei bechodau.

Dal i ymateb i'r ornest a wneir yn y penodau sy'n dilyn, yn gyntaf trwy'r ymddiddan digrif rhwng yr Yswain a'r Person - er na chuddir pechodau y naill na'r llall, cyflwynir portreadau digon cydymdeimladol o'r ddau hyn - yna yn yr ymryson bywiog pan yw Gwen yn ceisio dysgu pader i'r Person.

sicrhau puredigaeth pechodau' (Heb.

Tydi, ein Tad trugarog, oedd yng Nghrist yn cymodi'r byd â Thi dy Hun a hynny heb gyfrif i ni ein pechodau.

Mae'r aelodau i ddatguddio'n onest eu pechodau, i gydnabod daioni a gogoniant Duw, i siarad yn ddiweniaith â'i gilydd ac i gymryd eu ceryddu os digwydd iddynt droseddu.

Hyd yn oed petai'n bosibl i ddyn benderfynu byw bywyd dilychwyn rhag blaen, ni allai ddadwneud effaith pechodau'r gorffennol.

Ymunwn gyda'r gwaredigion yn dy bresenoldeb yn y nefoedd i ganu i'r Hwn a'n carodd ni ac a'n golchodd ni oddi wrth ein pechodau yn ei waed ei Hun.

Ond am lawer yn y fro yma, mae eu beiau a'u pechodau'n methu cael lle yn y ciw.

Yn gwenu O'i gwmwl ar ein tipyn pechodau.

Pan fu esgob Llandaf yn ei holi, flynyddoedd cyn hyn, am fod ei waith yn tramgwyddo rheolau'r eglwys, dywedodd Wroth wrtho, "Mae eneidiau'n mynd i uffern, f'Arglwydd, yn eu pechodau; oni ddylem ymdrechu ym mhob modd posibl i achub eneidiau?" Ac yn ei lyfr, Glad Tydings, rhoes Cradoc fynegiant eithriadol ddeniadol i'r genadwri Gristionogol, mynegiant sy'n rhoi awgrym inni o'r ysbryd a oedd yn ysgogi'r gweithgarwch o dan Ddeddf y Taenu.