Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pedolau

pedolau

Byddai'r gof druan i mewn ac allan o'r efail yn gyson i ffitio'r pedolau, ac yn y diwedd eu hoelio ar y carn.

Teimlai hwnnw'n ofnus oherwydd gwyddai mai neges annerbyniol iawn oedd ganddo i'w rhoi, ond dywedai wrtho'i hun mai nid ei fai e oedd fod llawer o'r ceffylau yn y fintai naill ai wedi, neu ar fin colli eu pedolau.

Yr un patrwm a geid ym mhob man yng ngwneuthuriad y pedolau; lle i saith hoelen ymhob pedol, pedair yr ochr allan a thair o'r tu mewn.

Pan fyddai gan y gof egwyl ym misoedd yr haf, a'r ffermwyr yn brysur gyda'r cynhaeaf, byddai yntau yn 'troi pedolau', rhai ugeiniau o barau o wahanol faint, a gwelid hwy yn rhesi yn hongian yn yr efail.

Yna, yng nghanol prysurdeb yn ddiweddarach, a sawl ceffyl yn disgwyl eu tro i'w pedoli o flaen yr efail, mor werthfawr i'r gof oedd fod y pedolau wedi eu troi yn barod.

Credai'r ffermwr y talai'r ffordd i roi pâr o bedolau dan y ceffyl gan y byddai'r pedolau yn ei helpu i gerdded yn ysgafnach a sicrach ar ffyrdd celyd.

Weithiau fe wnâi'r gof rimyn yn y bedol fel y byddai'r hoelen bedoli yn mynd o'r golwg yn y rhimyn Ar ôl ffitio'r pedolau, a hwythau yn barod,- fe roddai'r gof hwynt yn y gasgen ddŵr a oedd yn yr efail; fe'u gosodai hwynt ar ymyl y blwch pedoli, lle yr oedd yno yr hoelion yn barod mewn lle arbennig, y rhasp a'r morthwyl pedoli hefyd.

Roedd yna ddigon o olion pedolau a llithriadau yn y llaid, ond dim byd arall.