Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pedoli

pedoli

Dyna fe, ddarllenydd - yn llafn main, tal, teneu, gwledig, - mewn gwisg ddiaddurn a digon cyffredin yn dyfod trwy ddrws y capel - am dano y mae coat winlliw o frethyn gwlad wedi ei wau yn lled fras, a hono wedi gweled ei dyddiau goreu; ac oblegid ei fod wedi tyfu ar ol ei chael, edrychai yn fer a chwta - gwasgod o stwff ac un rhes o fotymau yn cau i fynu yn y glos am ddolen ei gadach India oedd yn dorch am ei wddf - llodrau o ffustian rhesog; a phar o esgidiau mawrion cryfion, gyda dwbl wadnau am ei draed, wedi eu pedoli yn ol ac yn mlaen; a'u llenwi â hoelion, ac ymylau hoelion y rhesau allanol yn amgylchu ymyl y gwadnau, fel y gallesid tybio y buasai eu cario yn ddigon o faich i unrhyw ddyn, heb sôn am gerdded ynddynt.

Ar ambell fore Llun gellid gweld tua dwsin o ffermwyr gyda phâr o geffylau yn disgwyl eu pedoli, a gallai rhai fod yno hyd y prynhawn.

Yr oedd amryw o adeiladau'r gofaint yn rhy gyfyng i gael ceffylau dan do i'w pedoli, a gallai'r gof felly fod i mewn ac allan yn barhaus, bydded y tywydd y peth y bo.

Dylent fod wedi cael eu pedoli oriau ynghynt a doedd dim synnwyr iddyn nhw fynd gam ymhellach - fyddai ceffylau cloff yn dda i ddim i neb.

Roedd y werin wedi darganfod llawer ffordd o ddangos eu hatgasedd tuag at fyddin y Senedd a'r ffordd fwyaf effeithiol oedd yr ymgyrch gan y gofaint i'w gwneud hi bron yn amhosibl i gael eu meirch wedi eu pedoli.

Rhaid oedd eu pedoli, felly, yn y gaeaf a'r gwanwyn; cedwid y gofaint yn brysur anarferol yn gwneud hyn.

Yna, yng nghanol prysurdeb yn ddiweddarach, a sawl ceffyl yn disgwyl eu tro i'w pedoli o flaen yr efail, mor werthfawr i'r gof oedd fod y pedolau wedi eu troi yn barod.

Gan fod y pedoli, er trymed y gwaith, yn un proffidiol, ymdrechai pob gof i ragori yn y grefft hon.

Weithiau fe wnâi'r gof rimyn yn y bedol fel y byddai'r hoelen bedoli yn mynd o'r golwg yn y rhimyn Ar ôl ffitio'r pedolau, a hwythau yn barod,- fe roddai'r gof hwynt yn y gasgen ddŵr a oedd yn yr efail; fe'u gosodai hwynt ar ymyl y blwch pedoli, lle yr oedd yno yr hoelion yn barod mewn lle arbennig, y rhasp a'r morthwyl pedoli hefyd.