Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pedwardegau

pedwardegau

Rywdro ar ôl canol y pedwardegau y deuthum i yn aelod o bwyllgor gwaith y Ffederasiwn.

Havana, wedi'r cyfan, oedd maes chwarae'r Mafia yn y pedwardegau a'r pumdegau.

Ond roedd y byd hwn yn chwalu cyn i mi gael fy ngeni, ac yn chwilfriwio'n gynyddol gyflym trwy gydol y tridegau, y pedwardegau a'r pumdegau.

Cof gennyf o deithio droeon i Sir Fôn yn ystod y pedwardegau i wylio adar, ac uchafbwynt ymweliad berfedd gaeaf fyddai taro heibio Cors Cefni i gael golwg ar y Gwyddau Dalcenwen fyddai'n treulio rhan o'r gaeaf yno.

Ac yntau'n fyfyriwr yng Ngholeg y Brifysgol ym Mangor ar ddechrau'r pedwardegau roedd yn gyfarwydd â dadleuon gwleidyddol y Blaid Gomiwnyddol a Phlaid Cymru.

BOCS: Cyn ei benodi yn ddarlithydd ym Mangor bu Gwyn Chambers yn gweithio am saith mlynedd gyda Gwasanaeth Gwyddonol y Llynges o ganol y pedwardegau hyd ddechrau'r pumdegau.

Yn y pedwardegau, sefydlwyd cymdeithas arall yn Albany, prifddinas y dalaith, rhyw saith milltir i'r dwyrain.

Ni chofiaf yn union pa bryd ydoedd ond credaf mai yn gynnar yn y pedwardegau.

Yr argraff a gefais yn fy Ysgol Haf gyntaf oedd ei bod yn ddealledig y dylai holl sbectrwm gweithgarwch cenedlaethol fynd trwy unig sianel Plaid Cymru, a chredaf i hynny fod yn briodol yn y tridegau a'r pedwardegau pan oedd holl ddyfodol Cymru fel cenedl yn dibynnu ar lwyr ymroddiad dyrnaid bychan o bobl, ac mai felly'n unig y gellid gwneud pryd hynny.

Stryd o dai cadarn a godwyd yn y pedwardegau oedd Ffordd Pen-nant.

Ond, eto'i gyd, er i lawer o unigolion gael eu hysbrydoli gan Benyberth i wneud eu gorau dros Gymru, ni sicrhaodd unrhyw doriad gwawr gan nad oedd y peirianwaith gwleidyddol yn bod trwy Gymru, ac yn y pedwardegau bu rhaid i'r mudiad i raddau ailgychwyn.

Yn ystod arlywyddiaeth Pero/ n yn y pedwardegau a'r pumdegau cynnar, daeth hyn yn gyfystyr ag ymyrraeth yn yr economi gan y wladwriaeth.

Soniwyd amdano ar y pryd, sef tua diwedd tridegau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r pedwardegau, fel un a oedd mewn cysylltiad agos â'r grŵp o bregethwyr ifainc a ddaeth dan wg brodyr yr hen ffydd 'iach' yn Sir y Fflint.