Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pegwn

pegwn

Yn y pegwn arall, yr oedd gan gapel bach Annibynwyr Pant-glas chwech o athrawon a dim un disgybl.

Yr oedd y cynnig arall yn y pegwn arall: gan nad oedd yn manylu, yr oedd yn ymddangos fel petai'n gorseddu egwyddorion y byddai pawb y tu allan i'r Blaid yn eu dehongli'n wrth-sosialaidd ac yn wrth-werinol.

Os mai Arthur ydyw'r Hunan, y tad-maeth ysbrydol a diwylliadol i Culhwch yr Ego, i'r gwrthwyneb, yn y pegwn arall, y mae'r Pencawr.

Mae'n wir fod brenin a brenhines newydd ar orsedd Lloegr, Sior y Pumed a'r Frenhines Mari, ac Amundsen o fewn ychydig dros fis i gyrraedd Pegwn y Deau; ond yr oedd Streic y Plocyn wedi gwneud bywyd yn anodd i'r glowyr a'u teuluoedd, y streic a geisiau sefydlu hawl y glowr i fynd a phlocynnau pren diangen adref o'r pyllau glo, y plocynnau pren a hwylusai'r dasg o gynnau tan yng ngrat y gegin.

Y mae llifeiriannau-iâ hefyd wedi gadael eu hôl yn arbennig yng nghyffuniau Pegwn y Dê sy'n golygu i Fawrth, ar un cyfnod o leiaf, fod yn berchen ar gapanpegynol a ledaenai hyd at ledred o gryn ddeugain gradd.

Er ei fod yn hoff o fwyd (yn lwth yn ystod cyfnod diofal ei ieuenctid), aeth o un pegwn i'r llall: cadwai at dri phryd y dydd a chyfri'r calori%au yn boenus.

Neu, yn y pegwn arall, pan fo'r amgylchiadau'n fwy difrifol þ dod â'r achos gerbron llys, doed a ddêl.

Pegwn y cywirdeb gwleidyddol gwallgof hwn yw cynnwys Cuba Gooding Jr fel cogydd du sy'n dipyn o baffiwr ar un o longau'r harbwr - cymeriad nad oes a wnelo affliw o ddim a'r stori ond bod ei angen i ddangos pa mor bositif yw Americaniaid pan ddaw hi'n liw croen.