Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

peint

peint

Ymhen rhyw bum munud, pwy ddaeth i mewn i'r bar, codi peint, a thynnu ei het, ond y plismon hwnnw.

Arferai Mr Roberts weithio fel coitsmon mewn plasty ond erbyn y cyfnod hwn roedd mewn gwth o oedran ac yn gaeth i'r tŷ; a chofiaf Mrs Roberts yn egluro i mi fel yr arferai hi fynd i'r Belle Vue bob nos i geisio peint o gwrw i'w gŵr efo'i swper.

A phan welsant fi yn dyfod atynt, ac yn gwybod fy mod yn ddirwestwr, daeth un ohonynt o'r tu ôl i mi ac ymaflodd am fy nghanol a gwasgodd fy mreichiau, a chymerodd un araU hanner peint o gwrw, gan feddwl ei dywaUt i fy ngenau, er fy ngwaethaf, gwasgais innau fy nannedd mor dynn ag y medrwn, nes y methasant yn eu hamcan."

Yno y cafodd Capelulo ei hanner peint

Trefn o fesur a roddodd inni ddywediadau lliwgar fel Dim llawn llathen a Rhoi chwart mewn pot peint.

Yn hwyrach y noson honno a ninnau ar ein trydydd peint edrychasom eto ar Iwerddon a chofio mai arweinydd mudiad yr iaith a ddewiswyd yn Llywydd cyntaf y Weriniaeth, ac yna treuliasom noswaith ddifyr yn dyfalu pa un o'r tai bonheddig yng Nghymru a fyddai orau gennym fel plas i'n llywydd, a pha un ohonynt a ddylai fod yn Chequers Cymru.

Aeth Jini ymlaen i ddarllen: 'Peint o boeri jiraff, Tri phwys o saim gwydd...'

Yr hyn syn drist ynglyn â phedwar peint ar ddeg y noson William Hague yw nid y ffaith iddo fod yn eu hyfed pan yn llanc ifanc ond ei fod on awr yn teimlor angen i ymffrostio am hynny.

Gwna di hynny.' 'Helô 'ma.' Daeth atynt gyda gwydryn hanner peint hanner gwag yn ei law a bwrw ati'n syth bin.

Cawsom sgwrs dda - a thra yr aeth Randall i nôl peint i Syd Aaron cefais ddeng munud i sgwrsio gyda'r hen wariwr hwnnw.

Wedi iddynt gael peint bob un fe dalodd un ohonynt gyda phishyn coron a gofyn am newid ond nid oedd yr hen wreigan am syrthio i'r fagl.

Talodd am hanner peint o gwrw i mi, a phan oedd efe yn ei estyn ataf, gwrthodais ei gymryd.

Wedi teithio am rhyw hanner awr go dda, dyma fo'n dweud: "You shouldn't drive for long without having a break," ac yn fuan y sylweddolais mai "break" oedd peint o Ginis.

Yr awgrym amlwg yw, wrth gwrs, na fyddai Mr Hague yn dal ar ei draed pe byddai wedi yfed pedwar peint ar ddeg o gwrw Albanaidd.

Mae'n arferiad gennyf roddi tair owns o'r halen Epsom mewn peint o ddwr claear i'r fuwch rhyw wythnos cyn ei hamod, gan fy mod yn meddwl ei bod yn well osgoi trafferth na'i gyweirio!

A dallta di, roedd fy nhaid a'm cyndeidiau'n mynd am eu peint cyn i Johnny Walker ddechra cerdded.

Am y dyrnaid o Fohemiaid y gellir eu henwi, dau hanner peint ac englyn braidd yn bethma oedd sail eu hanfarwoldeb!

Yn eu plith y mae: Dim Stripars (rheol 2), Dim trafod gwleidyddiaeth (7) Dim Dynion onibai... (3) Nad ydyn nhw ond yn aros am hanner awr (4) A'u bod yn prynu peint i'r merched i gyd cyn gadael (5).

Blasus oedd y peint uwd yn y bore a'i gynhesrwydd yn treiddio trwy'r gwythiennau a'r ymennydd, ac amheuthun oedd y cig lledr, y pytatws llygredig a'r pwding reis dyfrllyd.

Ac mae'r ffaith ein bod yn cael ein cystuddio heb beint neu ddau yn waeth na criwelti to animals, a does i ni ond un bai, ac mae hwnnw mor fychan fe aiff i mewn i las peint.

Parhau yn destun trafod y mae gorchest pedwar peint ar ddeg William Hague.

Dyna pam y gwnaed yr awdur, JK Rowling, yn aelod er anrhydedd o'r BWMA - British Weights and Measures Associaction - cymdeithas sydd a'i bryd ar ddiogelu'r peint a'r chwart a'r pwys a'r owns.