Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pelawd

pelawd

Cipiodd Darren Gough wiced Shahid Afridi yn y seithfed pelawd.

Ei ffigurau oedd wyth wiced am 164 oddi ar 74 pelawd.

Erbyn amser cinio 'roedd cricedwyr Morgannwg wedi cyrraedd 183 am bum wiced wedi 42 pelawd.

Bowliodd Robert Croft yn arbennig o dda, dwy wiced am 40 oddi ar ddeg pelawd.

Gwelwyd Alex Wharf yn arwain y ffordd gyda ffigurau campus o dair wiced am 18 oddi ar ei ddeg pelawd.

Wedi iddyn nhw gyrraedd 232 am wyth yn eu 50 pelawd dechreuodd Lloegr ar garlam.

Fe wnaeth bowlwyr Lloegr yn dda ar lain digon deche yn cadw Sri Lanka i 226 am chwe wiced oddi ar 50 pelawd.

Gary Sobers yn taro chwe chwech mewn un pelawd oddi ar fowlio Malcolm Nash yn Abertawe.

Roedden nhw'n dair wiced am bum rhediad yn y bumed pelawd.

Roedd Derby'n ddyledus iawn i'w capten Dominic Cork am sgorio 83 heb fod mâs gan sicrhau buddugoliaeth i'w dîm gyda phedair pelawd yn weddill.

Sgoriodd yr ymwelwyr 224 am 4 (45.0 pelawd). Sgoriodd Morgannwg 228 am 4 (42.0 pelawd). 4 pwynt felly i Forgannwg.

Cipiodd Graeme Welch, gynt o swydd Warwick, bum wiced am 22 oddi ar ei naw pelawd.

Cychwynnodd gyda phum pelawd gan ildio dim ond pum rhediad.

Roedd y sgorio hefyd yn araf, Essex yn sgorio ychydig dros ddwy rediad y pelawd yn ystod y dydd.

Keith Newell a Matthew Elliott yn rhannu 46 mewn naw pelawd cyn i Elliott fynd am 21.

Mae 12 pelawd ar ôl gan Forgannwg.

Mae Robert Croft wedi bowlio'n dda - wedi cipio wiced am 41 oddi ar 16 pelawd.