Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pellennig

pellennig

Aeth trigolion y pentrefi gwasgaredig a'r ffermydd pellennig i lawr i'r dref i drwst y ffair.

Wrth i gymeriadau pellennig bennu ar hap beth fydd eu hanes, cipiant awennau eu dyfodol i'w dwylo eu hunain a sicrhau rheolaeth dros eu tynged hwy eu hunain.

Ymhen ychydig ddyddiau wedi i'r merched droi am adref hwyliodd y Maritime o Gaerdydd i Abertawe i lwytho ac o'r fan honno wedyn am borthladd pellennig.

Cyrhaeddai adre o'r môr yn llwythog; creiriau'r Almaen a Ffrainc i ymuno â'r rhai oedd yma'n barod o'r India, Japan a lleoedd pellennig eraill - ambarel o ffasiwn newydd a blygai'n dwt i fag llaw fy Mam; llathenni o sidan i wneud ffrogiau i Mam a minnau; melfed wedyn i wneud trowsusau "dydd Sul" i 'nau frawd.

Eglwysi pellennig a diarffordd oedd y rheiny gan mwyaf.

Iddo ef, roedd rhyw swyngyfaredd yn yr ynysoedd pellennig hyn.

Digon prin oedd newyddion ar y gorau, ar wahân i eni a marw yn y mannau pellennig hyn.

Neu beth am ddianc yn llwyr o'r hwrli-bwrli i draeth gwyn, pellennig?