Mae awdurdod Pendaran Dyfed ym mater enwi'r bachgen yn amlwg, a chan fod Teyrnon a Phendaran Dyfed ill dau'n cael meithrin y bachgen, mae'n debyg fod cysylltiad arbennig rhwng Pryderi a Phendaran Dyfed.
Os dewisodd yr awdur roi lle Pendaran Dyfed i Bwyll, fe all fod y rheswm i'w gael yn ystyr yr enw, sef 'barn, synnwyr, ystyriaeth, dianwadalwch', ansoddau a ystyriai'n anhepgor i lywodraethwr.
Mae'r enw Pendaran, Pen Darian efallai, Prif Amddiffynnwr, Dyfed ac iddo atsain awdurdod a hynafiaeth nas ceir yn Pwyll, Pendefig Dyfed, sydd, o'i gymharu ê'r llall, yn enw tawel a modern.
Sylwyd eisoes gan W J Gruffydd a'r Dr Bromwich nad Pwyll ond Pendaran Dyfed oedd tad gwreiddiol Pryderi, ac fe ddengys y Dr Bromwich nad yw'r beirdd yn talu llawer o sylw i'r un tad na'r llall.