Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

penderfynol

penderfynol

Weithiau gwnâi rhywun rhyw sylw ffraeth, megis, "Mae'n siŵr dy fod wedi nyddu digon o edafedd i wau siaced am y byd erbyn hyn, Morfudd!" A'i hateb yn ddieithriad fyddai, "Rhyw ddydd, Mr Jones, pan ga'i weill!" A chwyrli%ai'r olwyn bren yn fwy penderfynol fyth.

Yna siaredais gyda llais penderfynol ac awdurdodol.

Yn aml, dyfais wrth gefn yw camerâu i ddatrys pethau pan fyddan nhw'n mynd o le ac fe fyddai person penderfynol yn gallu torri tagiau neu gael cerdyn adnabod.

Adlais ddiflanol o emynyddiaeth y ddeunawfed ganrif yw y nifer ddibwys o emynau gynyrchwyd yn ddiweddar, yn lle llais byw, penderfynol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Ac yn Harris cafwyd dyn penderfynol a fynnai gadw disgyblaeth gadarn arno.

Creadur penderfynol yw Pedr, fe fyn fynd ymlaen.' 'Pedr,' meddai Ioan, 'y mae hi'n dywydd ofnadwy.' 'Wel, ydyw,' meddai Pedr, a lluwch ton yn mynd dros ei wyneb; 'Ydyw, mae hi,' meddai.

Tebyg y byddan nhw'n fwy penderfynol ar ôl colli i Gaerdydd ar Barc yr Arfau ddydd Sadwrn.