Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pendraw

pendraw

Ni all na charchariad na marwolaeth atal ein buddugoliaeth yn y pendraw.

Dywed rhai mae pendraw'r broses a argymhellir fydd dileu'r rheithgor yn gyfangwbl.

Ond rwyn siwr iddo wneud hynny yn y pendraw yn sgîl arafwch Undeb Rygbi Cymru i wneud unrhyw ddatganiad ar y mater.

Diflastod yw pendraw rhywbeth fel hyn.

* Dylid cydnabod yn achos y Gymraeg, fel yn achos Saesneg, fod disgyblion yn anelu at ennill rhwyddineb llawn yn yr iaith ac y dylid asesu pob disgybl yn y pendraw yn erbyn yr un targedau cyrhaeddiad.

Cyn bo hir, deuai natur yr offeiriadaeth, ac yn y pendraw - wrth iddo weld y gwahaniaeth rhwng rhai o'r eglwysi ymneulltuol a'r eglwysi Catholig yn mynd yn fwyfwy aneglur - natur y weinidogaeth hefyd, yn ganolog i'w athrawiaeth.

Ethiopia sy wedi'n gorchfygu ni a byddwn yn ymladd yn erbyn yr ymosodiadau hyn yn fwy nag erioed ac, yn y pendraw, ni fydd yn ennill," meddai.

'Yn y pendraw mae cyfrifoldeb ar y chwaraewyr yn yr oes broffesiynol yma.

Yn achos canolfannau gofal plant bach, y mae pob asiant gwirfoddol a phreifat yn gorfod cael ei gofrestru gan yr adran gwasanaethau cymdeithasol (SSD), felly gellid ystyried mai dyna'r corff cyhoeddus a ddylai yn y pendraw fod yn gyfrifol am bob sefydliad addysgol yn y cyfnod cyn-statudol?

A derbyn mai'r asiant cynhyrchu, yn y pendraw, a ddylai gael penderfynu rhwng cyflogi neu gomisiynu er mwyn cyflawni gwaith, y mae angen rhai canllawiau pellach i egluro'r disgwyliadau o safbwynt cyflogi, yn arbennig yn y tymor byr wrth symud drosodd at ddull newydd o ariannu projectau.

Yr un pryd credai'n bendant nad ymatebai Llywodraeth Prydain i hawl gyfiawn y Cymry i'w rheoli eu hunain heb iddi gael ei gorfodi gan amrywiol amgylchiadau i wneud hynny, yn y pendraw.