Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

penodedig

penodedig

`Gyda phleser,' ebe Harri, `ond i chwi fod yn gyfrifol i mi am ganpunt os digwyddiff rhwbeth iddo.' `Dim peryg,' ebe'r Yswain, ac ychwanegodd, `ond tyrd dy hun efo ni, mi fydd yn dda gen i dy weld yn y cwmni.' Diolchodd Harri iddo, a theimlai yn hynod o hapus fod ei feistr tir wedi ei wahodd i ymuno â'r boneddigion oedd yn myned ar ôl y cŵn ddydd Llun, ac ni wnaeth efe ddim arall bron hyd y dydd penodedig ond ei daclu ei hun a'i geffyl ar gyfer yr amgylchiad.

Mae ef yn argymell yn gryf y dylid rhoi cyflog penodedig i bob meddyg sy'n gweithio mewn ysbyty ac felly osgoi'r demtasiwn i 'or-drin' ei gleifion.

Darparodd Duw, yn ei oruchwyliaeth drugarog, ffyrdd i ddileu'r halogiad hwn drwy aberthau penodedig, fel y'u nodwyd o fewn i'r ddeddf Iddewig.

Ni fyddai'n dderbyniol i'r Pwyllgor fod cyfrifoldeb strategol yr awdurdod addysg lleol am ddarparu a gweinyddu ystod o sefydliadau, gan gynnwys ysgolion penodedig Cymraeg, yn cael ei ddileu a'r cyfrifoldeb yn cael ei roi i gynghor cyllido enwebedig newydd.

O ran rhyw, roedd mwy o ferched na dynion wedi darllen cylchgronau o fewn y cyfnod penodedig.

safbwynt cynnal ac adfer y Gymraeg - boed trwy gyfrwng ysgolion dwyieithog penodedig neu dradoddiadol - mae eu cyfraniad yn allweddol.

Ydi rhai mathau penodedig o adar yn hoff o wahanol gynwysyddion neu o wahanol fwyd, etc.?

Gan fod llawer o ddynion yn gweithio yn y bonc roedd yn rhaid cad rhyw drefn gyda'r saethu, neu mi fuasai rhywun yn cael ei ladd neu ei anafu bob tro; felly roedd amserau neilltuol i'r saethu a threfn rhywbeth tebyg i hyn: roedd dyn penodedig yn chwythu biwgl, ac ar y chwythiad cyntaf roedd pawb nad oedd a wnelo hwy â'r saethu yn mynd i le diogel i ymochel neu, i ddefnyddio term y chwarel, i wardio ffiars.

Yn yr un modd ag y mae ysgolion Cymraeg penodedig a mudiadau fel yr Urdd a Merched y Wawr yn gweithredu'n gyfan gwbl ddi-amod drwy'r Gymraeg, yr her yw sefydlu peuoedd Cymraeg sydd yn gyfochrog â'r rhai hynny sydd yn bodoli yn y Saesneg ar hyn o bryd.

TROEDLE CADARN I'R GYMRAEG - Yr angen am Ysgolion Cynradd Cymraeg penodedig yn y Fro Gymraeg - Emyr Hywel

Mae nifer gynyddol o ysgolion traddodiadol uwchradd (o'u cyferbynnu ag ysgolion dwyieithog penodedig) yn dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae'n syniad buddiol gosod amser penodedig ar gyfer adolygiad o gynnydd hanner ffordd drwy'r lleoliad.

Roedd hi eisoes wedi gwneud trefn ar ei phethau, ac yn dymuno cael ei chladdu mewn man penodedig.

Mae gofyn i Gyfarwyddwyr Artistig y cwmniau gyfarfod ar ddyddiad penodedig i roi trefn ar eu cynigion, ac yna i gyflwyno i'r canolfannau becyn gwybodaeth tymor byr a strategaeth tymor hir.

Sicrhawyd Esgob Tyddewi y gallai'r dyddiau penodedig o weddi%o fod yn fendithiol, ac er mwyn i'r Eglwys gyflawni ei dyletswydd ym mlynyddoedd y Rhyfel yr oedd yn ofynnol iddi fod yn gwbl argyhoeddedig fod y frwydr yn un yn erbyn galluoedd y tywyllwch.

Bydd pob grŵp ymgyrchu canolog yn cael ei gynrychioli ar y senedd gan ei gynullydd, ynghyd ag unigolion penodedig a fydd yn gyfrifol am y dair elfen hanfodol: ymchwil a pholisi; cyfathrebu a lobïo; gweithredu.