Look for definition of penodi in Geiriadur Prifysgol Cymru: |
Yr Eisteddfod Genedlaethol yn penodi'r Cyfarwyddwr llawn-amser cyntaf.
Wrth ffurfio ensym rhaid bod ynddi stor anferth o wybodaeth raglenedig er mwyn gallu penodi pa ddilyniant o asidiau amino sydd yn anghenrheidiol o blith llawer o wahanol drefniannau.
Er y byddai'n bosibl, wedi i broject tair blynedd ddod i ben yn llwyddiannus, i'r Swyddfa Gymreig gytuno i ariannu project newydd yn yr un maes i'w gyflawni o fewn cyfnod penodol pellach, nid ystyrir fod profiad o gyflawni project blaenorol yn fwy manteisiol na phrofiad diweddar yn y dosbarth ac anarferol fyddai penodi swyddog project am ddau gyfnod yn olynol.
Y cam cynta' oedd penodi Prif Weithredwr.
Ddoe dywedodd rheolwr Lloegr, Clive Woodward, fod penodi Graham Henryn hyfforddwr y Llewod yn jôc.
Yr oedd hyn yn brofiad digon diflas yn aml; llosgi ystafell mewn neuadd neu ysgol mewn pentref, penodi dyddiad a threfnu siaradwr; hwnnw weithiau'n tom'i gyhoeddiad ar y funud olaf ac nid oedd dim amdani ond mynd yno fy hun a chyhoeddi neges y Blaid cystal ag y gallwn Ni chaem fawr ddim cefnogaeth mewn aml ardal, ychydig a ddeuai i'r cyfarfodydd a drefnid - rhyw hanner dwsin a llai na hynny yn aml ac weithiau neb yn troi i fyny.
Y cam nesaf oedd penodi Ysgrifennydd Cyffredinol.
Erbyn hyn yr oedd penodi esgobion yn digwydd yn ôl cynllun newydd.
Mae'r busnes wedi gwneud camau breision tuag at ymgorffori ymagweddau mwy blaengar i'w arlwy o wasanaethau, gan gynnwys penodi rheolwr datblygu cynnyrch newydd arbenigol i weithio'n agos gyda BBC Cymru mewn meysydd megis technoleg rithwir a llifo byw.
Yn hynny o beth, meddai un aelod amlwg, roedd penodi Elan Closs yn ddirprwy gadeirydd yn benderfyniad pwysig.
Ar ôl ystyried yr ymateb i hysbyseb yn y wasg gofynnodd y pwyllgor penodi i Harri Gwyrln a fuasai'n barod i adael iddynt ychwanegu ei enw at y rhestr o ymgeiswyr am y swydd.
Dros y blynyddoedd, fe fu rhai adrannau'n fwriadol yn peidio penodi Cymry Cymraeg.
Ond mae carfan arall o blaid penodi pobl ar y ddealltwriaeth na ofynnir iddynt fyth ymddangos ar y sgrîn.
Mae Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd wedi penodi Ian Butterworth yn is-hyfforddwr.
Roedd y cyhoeddiad yn ymgais amlwg i dreio dynnu'r colyn o'r feirniadaeth groch sy'n debyg o'u hwynebu yn ystod yr wythnos nesa' - nad ydyn nhw'n gwneud dim ond penodi pobol i swyddi.
Penodi Syr David Maxwell Fife i'r swydd newydd, Gweinidog Materion Cymreig.
Yr oedd Cyngor y Coleg wedi penodi Pwyllgor Amddiffyn rhag Cyrchoedd Awyr o dan gadeiryddiaeth yr Athro Ifor Williams ac aeth hwnnw ati i sicrhau nad oedd yr un llewyrch o oleuni i'w weld trwy ffenestri'r adeiladau.
Mae'r Cyngor wedi penodi pwyllgor i'w gynghori ar Addysg, gaiff ei adnabod fel Cyngor Darlledu Addysgol Cymru.
Penodi Ian MacGregor yn bennaeth y Bwrdd Glo.
mae'r busnes wedi gwneud camau breision tuag at ymgorffori ymagweddau mwy blaengar i'w arlwy o wasanaethau, gan gynnwys penodi rheolwr datblygu cynnyrch newydd arbenigol i weithion agos gyda BBC Cymru mewn meysydd megis technoleg rithwir a llifo byw.
Penodi Lyndon B. Johnson yn Arlywydd yn ei le.
Yn awr yr oedd esgobion yn cael eu penodi'n uniongyrchol trwy letters patent gan y Goron, sef gan Somerset ar y pryd.
staffio - penodi athrawon a'r defnydd a wneir ohonynt (dylid rhoi sylw arbennig i'r defnydd a wneir o unrhyw athrawon nad ydynt yn arbenigo yn y pwnc ac i natur y gefnogaeth a dderbyniant); dylid rhoi sylwadau gwerthusol ar ansawdd y cyfarwyddyd yn y pynciau a'r HMS a ddarperir i holl athrawon y pwnc a'r cyfraniad a wneir gan staff cynnal.
Eu gobaith yw penodi Dean Saunders, ymosodwr Cymru yn chwaraewr/hyfforddi Abertawe, a Leighton James yn aelod o'r tîm rheoli.
Penodi James Griffiths yn Ysgrifennydd Gwladol cyntaf Cymru gyda sedd yn y 'cabinet'. 'Roedd y Swyddfa Gymreig newydd â gofal am dai, llywodraeth leol, trafnidiaeth ffyrdd a rhai agweddau ar gynllunio lleol.
Mae'r aelodau yn croesawu'r cynigion ar gyfer penodi gohebwyr a golygyddion arbenigol newydd.
Penodi swyddog project (dwy flynedd)
Daliai'r diweddar John Arthur Price fod peth o'r ysbryd hwnnw yn yr achos cyfreithiol a ddug wardeiniaid Trefdraeth ym Môn yn 1773 yn erbyn penodi Sais uniaith yn berson y plwy.
mae'r aelodau yn croesawur cynigion ar gyfer penodi gohebwyr a golygyddion arbenigol newydd.
Rhyfeddach lawer yw fod y Methodistiaid, gan nad oedd pwysau ariannol o Lundain arnynt hwy, wedi penodi tri athro nad oeddynt Gymry i'w coleg yn Y Bala.
O'r cychwyn cyntaf mae rheolwyr yr ysgol uchod wedi gweithredu yn holol bendant, yn unol â chanllawiau Pwyllgor Addysg Gwynedd, dan drefn asiantaeth staffio cynradd -- trefn penodi Prifathro a Dirprwyon.
Bydd penodi gweithiwr prosiect i ddatblygu cyfleoedd i wirfoddoli yn sbardun sylweddol i wireddu'n amcanion dan y pennawd yma.
Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol Penodi George Thomas yn Ysgrifennydd Gwladol Cymreig.
Penodi Ian Macgregor yn Gadeirydd y Gorfforaeth Ddur.
Mae pwyllgor technegol Undeb Rygbi Cymru wedi argymell penodi Ruddock yn hyfforddwr Tîm A Cymru a mae o wedi cael cynnig swydd hyfforddwr Glyn Ebwy.
Penodi Harold Macmillan yn Brif Weinidog yn lle Anthony Eden.
BYW MEWN DYLED Y mis diwethaf fe addawyd y buasem yn rhoi sylw i gwestiwn arall gan un o ddarllenwyr Tafod Elai y tro hwn, ac fel mae'n digwydd, fe welwch ei fod yn un hynod o amserol a pherthnasol: Annwyl Syr, Clywais fod Cyngor Taf Elai wedi penodi swyddog datblygu Undebau Credyd.
Gwarth o beth yw i rai pobl briodoli iddo gymhellion Seisnig a Saesneg, ar y rhagdybiaeth ei fod yn ddi-Gymraeg, ac mai ei fwriad yw penodi swyddogion yn ei lun a'i ddelw Anghymreig a di-Gymraeg ei hun.
Ni welwn fawr ddim diben mewn penodi Cymry Cymraeg i swyddi - yn wobr, fel petai, am fod yn Gymry Cymraeg lle maent yn cyflawni'r mwyafrif mawr o'u dyletswyddau trwy gyfrwng y Saesneg.
Yr oedd hefyd eisiau amod y byddai'r clerigwyr (gweision suful eu dydd) a gâi eu penodi yn medru'r Gymraeg, ac yr oedd galwad ynddo hefyd am ddwy Brifysgol i Gymru, yn hytrach na chorffori sefydliadau Cymraeg gyda sefydliadau Saesneg.
Cynllun Penodi
Gan mai natur yr unigolyn a benodir i gyflawni project yw'r prif ffactor mewn llwyddiant y math yma o broject, y mae angen cytuno ar ganllawiau ar gyfer penodi'r personau mwyaf cymwys er sicrhau cysondeb a disgwyliadau cyffredinol ymysg y canolfannau.
Penodi George Thomas yn Ysgrifennydd Gwladol Cymreig.
Roedd yn ddiwedd ar gyfnod prysur tu hwnt, o benodi Nick Evans fel Swyddog Comisiynu Choice, adeiladu stiwdio bwrpasol, penodi staff cyflwyno a chynhyrchu a chynllunio rhaglenni hyd at achlysur lansio llwyddiannus BBC CHOICE Wales.