Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pentan

pentan

Cododd ei draed i ben y pentan, taniodd sigâr fach, ac aeth ati i anwylo'r llun.

Gyda llaw, be sy gen ti yn y sospan yna?" "Bara llaeth ar gyfer swper," meddwn i, yn symud y sospan o gwr y tân ar y pentan.

Bu nifer o bobl o gylch 'Y Pentan' yn brysur iawn yn Eisteddfod Casnewydd, yn enwedig o gofio mai hon oedd yr eisteddfod olaf cyn Eisteddfod Dyffryn Conwy a'r Cyffiniau y flwyddyn nesaf.

Yr oedd yr hen gadair yn wag; ac wrth ei hochr, ar y pentan llydan, yr oedd y bibell, yn gymwys yn yr un fan ag y dodwyd hi pan ddefnyddiwyd hi ddiwethaf bedwar diwrnod cyn y noswaith honno.

Ymollyngodd i'r gadair freichiau y codawn ohoni, estynnodd ei law yn reddfol am y blwch tybaco ar y pentan yn ei ymyl, a dechreuodd lenwi ei bibell yn araf a phruddaidd.