Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

penteulu

penteulu

Teimlid bod y cyfeiriadau cyson at yr 'hynaf penteulu' a'r 'hylwydd iawn gynheiliad' ynghyd â'r 'ymherawdr' a'r 'emprwr', y sofran a wyliai fuddiannau ei ddeiliaid, yn elfennau teuluol yn eu hystyr ehangaf ac yn cyfannu'r gymdeithas ac aelodau o'r 'cenhedlog waedogaeth' ynghlwm wrth uned sylfaenol y teulu cenhedlig na allai ffynnu mewn cyflwr o anarchaeth neu ddiffyg trefn.

Roedd y pâr ifanc, fel y mwyafrif o blant dynion, yn bur dlodion, heb nemawr o ddodrefn na dillad, a chan fod y gaeaf yn nesu, penderfynodd y penteulu fyned i sale Hendre Llan, ran debyg y byddai yno le da i gael pâr o wrthbannau am bris rhesymol, yr hyn oedd arno fwyaf angen o ddim.

ac arddel teg urddas' a'r fangre lle 'y rhed gryn anrhydedd; gras glân'; a dyrchafwyd y penteulu yntau'n ŵr o 'lendid a ffyddlondeb'.

Penteulu'r llys dymunol hwn yw Owain Glyn Dwr, sy'n disgyn o waed brenhinol Gogledd Powys ar ochr ei dad ac o linach frenhinol Deheubarth ar ochr ei fam.