Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pentre

pentre

ac mae Proffesor Dalton wedi awgrymu y gallech chi a'ch teulu gael y tŷ 'ma nawr - gan fod tai'n brin iawn yn y pentre 'ma, ac fe fydd rhaid i chi gael rhywle ..." "Fe fyddwn i'n falch iawn o gael y tŷ os yw e'n wag, Cyrnol Grant.

Gadawodd Craig Ryall ei gartre yn Heol Illtyd, Pentre'r Eglwys, Pontypridd, am naw o'r gloch nos Iau.

Mae'r clwb yn beio'r oedi yn y cynllun i adeiladu pentre chwaraeon ym Mae Caerdydd.

Mae'r pentre felly'n cuddio yng nghalon Cwm Gwendraeth.

Parc Maesteg oedd enillwyr y gêm rhyngddyn nhw â Thon Pentre.

Meddyliwch fod pentre fel Felin Fach, pentre gwledig sy'n llai na Tai Nant, yn rhedeg theatr lewyrchus.

Wedi ennill y loteri yn 1999 penderfynodd Dyff brynu'r Deri gan ei osod ef a'i deulu yng nghalon y pentre.

Yna daeth y yr ofalaeth dan weinidogaeth y Parchedig Arthur Jones, pan ymunodd hi a Pentre Llanrhaeadr, y Wern, a'r Glyn.

Ar ôl gweithio ar sawl stori am y pentre penderfynodd symud yno i fyw.

Mynd yno wnes i i weld criw o weithwyr yn gorffen codi pentre' Celtaidd - tri thŷ crwn nodweddiadol o'r cyfnod cyn hanes, wedi'u rhoi at ei gilydd gyda dulliau mor debyg â phosib' i ddulliau'r Celtiaid .

Doedd hi ddim yn beth anghyffredin darganfod cyrff pedwar neu bump o ddynion y pentre' ar ei rhiniog y bore wedyn.

Ymhob pentre' mae gweddwon sy wedi colli'u plant yn awr yn gorfod ysgwyddo'r baich o adeiladu'r economi heb lawer o ddynion i'w helpu.

Cyd-berchennog siop y pentre.

Stopiodd y Doctor y car o flaen tafarn y 'Gloch', sef y gwesty mwyaf (o ddau) yn y pentre.

Er i'w deulu ddianc o'r pentre, doedd e ddim yn gwybod beth ddigwyddodd iddyn nhw wedyn.

Lleolir pentre dychmygol Cwmderi rhywle rhwng Caerfyrddin a Llanelli.

Gallwn brofi pwysigrwydd yr uned bentrefol trwy gyfeirio at nifer o enghreifftiau e.e.l. Pan unir capeli, gan gynnal gwasanaethau bob yn ail mewn gwahanol bentrefi, tuedda'r mwyafrif o'r gynulleidfa ddod bob amser o'r pentref y cynhelir y cwrdd ynddo e.e.2. Pan fydd plentyn yn cael ei symud - trwy ddewis rhieni - i ysgol pentref arall, tuedda'r plentyn golli cysylltiad cymdeithasol anffurfiol hefyd â gweddill plant y pentre e.e.3. Pan gae'r ysgol, bydd holl blant y pentre'n colli'r ymwybyddiaeth o fod yn griw y pentre wrth fynd i'r ysgol uwchradd ac felly'n colli'r ymwybyddiaeth o berthyn ar y lefel hon.

Dywedodd wrthyf un tro, fod ei fywyd bore oes i'w gael yn Y Pentre Gwyn - cyfnod y chwaraeon, y potsio, yr hel priciau yn y goedwig, y cyrchu dwfr o Ffynnon Dolafon, ac mai darlun ohono ef sydd yn 'John Ty Pell', ac yn Y Golud Gwell fel 'Arthur Puw,' sef y bachgen y byddai pobl yn gofyn i Betsi Puw - 'Ai eich bachgen chwi ydyw,' pryd yr atebai yn swta - 'Y fi sy'n ei fagu o'.

Cerddodd pawb yn bwyllog i ganol y pentre ac at y ffynnon ond er mawr siom roedd hi wedi sychu'n grimp.

'Roedd yn rhaid i Lisa a Fiona wynebu llawer iawn o gasineb yn y pentre oherwydd eu perthynas hoyw a gadawodd Lisa am gyfnod eto gan ei bod yn methu wynebu'r holl siarad amdani.

Ond mae'n debyg iawn fod pawb arall yn y pentre yma yn credu rhywbeth yn debyg i mi." Cerddodd Einion atynt gyda dau ddarn o wifren yn ei law.

Cyrhaeddodd i ddechrau yn 1989 gan wneud cryn argraff ar y pentre a'i drigolion.

Prin yw delweddau felly - ond yn ystod yr þyl y mae'r cyfle i chwilio am ddelweddau yn adderchog gan fod y dewis mor eang ac yn gyfoethog, yn syfrdanol o amrywiol ac yn wirioneddol ryngwladol, ac eto'n Gymreig yn yr ystyr orau; yn fodern; yn gyffrous, yn gyfeillgar, yn barod i groesawu diwylliant pentre'r byd.

Wrth i Steffan aros yn y pentre daeth yn amlwg nad oedd mor ddiniwed ag yr hoffai i bawb feddwl.

Nawr dwy i ddim am i chi gredu'i bod hi'n anfoesol mewn unrhyw ffordd - ond roedd hi'n bropor, boblogedd, a digon o fechgyn yn y pentre fydde'n barod 'i phriodi hi.

Fe ddaethon ni ar draws pedair menyw a'u plant yn ymolchi mewn ffynnon - yr unig gyflenwad o ddŵr ffres yn y pentre'.

Cafwyd pryd da o fwyd yn y Springfield Hotel, Pentre Halkyn ar y ffordd adref ac y mae Pwyllgor yr Henoed yn dymuno diolch yn ddiffuant iawn i Gyngor Cymuned Y Felinheli am gyfarfod y cyfan o gostau'r wibdaith.

Er ei bod yn hwyr iawn fe Iwyddodd i gael llety mewn gwesty digon tlawd yn y pentre.

"Wel, mae'n debyg fod y peth wedi effeithio arno fe, oherwydd wythnos ar ôl iddo orffen 'ma roedd e'n sâl yn 'i wely a Doctor Wills o'r pentre gydag e bob dydd." Bu distawrwydd yn y swyddfa am funud a'r Cyrnol yn edrych yn feddylgar ar y to.

Rai wythnosau'n ddiweddarach dyma Jim yn taro ei big i mewn i siop y pentre, a honno'n orlawn ar y pryd.

Ar ôl cinio a dychwelyd unwaith yn rhagor at gynhesrwydd Pentre Ifan, fe rannon ni yn ddau griw.

Bu'n caru gyda'u merch, Cathryn, am sbel ond pan gyrhaeddodd Carol Gwyther y pentre trodd Dic ei olygon tuag ati hi.

Prynodd siop y pentre gyda'i arian yswiriant.

Ni fyddai'n breuddwydio mynd i bysgota hebddi rhag ofn iddo gyfarfod ƒ Llew Williams y Cipar, hen ddyn annifyr nad oedd neb yn y pentre yn ei hoffi ...

Roedd hi'n enedigol o Nantyffyllon, yn ferch i Howell a Mary Williams a gadwai siop groser yn y pentre ac yn selogion yng Nghapel Salem.

Mae Canolfan Pentre Ifan yn glyd, cysurus, hardd hyd yn oed, a moethus.

Ar ôl cyfnod o iselder penderfynodd mai'r ffordd orau i ddelio gyda'r sefyllfa oedd trwy fod yn ôl ynghanol y pentre a phrynodd siâr yn y siop gyda Denzil.

'Mae pethau mawr wedi bod yn digwydd yn y pentre, 'machgen i, fel y gwyddost.

Ni ddychwelwyd ar hyd yr un llwybr yn union â'r un a ddaeth â hwy i'r pentre'n y lle cynta, ond yn hytrach, canfyddwyd llwybyr lletach lle roedd hi'n haws rowlio'r casgenni.

Dewch." Roedd hi'n chwech o'r gloch bron pan ddychwelodd Doctor Treharne i'r pentre.

Arferai Hugh Owen Talgwyn Isaf gario "visitors" o Lerpwl, Manceinion a Chaer yn ei "waggonett" dau geffyl o Stesion Pentraeth i'r Traeth Coch am ychydig sylltau, a'r un modd o'r Benllech gan fod tua hanner milltir i'r pentre pryd hynny, ond sydd erbyn hyn yn dref reit dda.

Yn naturiol ddigon, roedd siop brysur y pentre yn ganolfan go bwysig a'r siopwr a'i gynorthwywr, pob un yn ei ffordd ei hun, yn dipyn o gymeriadau.

Mi gymrodd dipyn o amser i'w gwneud rhwng hel bocsus o siopa'r pentre a bod amser y brawd oedd yn y chweched dosbarth yn yr 'ysgol ganolraddol' yn brin, a hefyd nad oedd yr arfau þ lli a morthwyl a spocshef a chþn coed ddim llawer iawn gwell na'r arfau oedd gan y Bardd Cocos yn gwneud trol þ lli a chryman a morthwyl oedd ganddo fo.

Cymryd eu tro i yrru fyddai'r ddau gan eu bod yn hoff o alw heibio ffynnon y fuwch goch ar waelod y pentre i olchi llwch y glo o'u cegau!

Yr oedd y siopwr yn y pentre bach yn serchog, a chyn bo hir yr oedd y ddau'n cael sgwrs ddifyr a diddorol.

Beth bynnag, priododd ei fan hynaf, Thomas a Mary Elisabeth Morgan o Ynys y Bwl, morwyn yn nhafarn Y Griffin, Pentre a bu iddynt naw o blant.

Roedd y morwyr a rowliai'r casgenni'n anadlu fel ceffylau gwedd pan ddaeth y pentre a'r hofeldai gwyngalchog i'r golwg drachefn.

Yna, un dydd, tra oedd hi'n ymweld â'i mam yn y pentre' nesa', fe aeth y milwyr â'i gŵr.

Ac roedd pawb yn gytun i ranbarth Caerfyrddin ein cyflwyno i drysor o le yng nghanolfan Pentre Ifan.

'Mae'n rhaid cadw'r clwb i fynd am y tair i bum mlynedd nesa nes bod ni'n cael cartre newydd yn y Pentre Chwaraeon.

Yn ystod pedair blynedd olaf ei oes faith bu fy nhad yn byw gyda ni mewn Tŷ Ysgol yn yr hen Sir Drefaldwyn a daeth yn ffefryn gyda'r plant a'r trigolion eraill yn y pentre.

Syllodd Ibn o'i amgylch ar y pentre.

Yn ddiweddarach doedd o ddim yn mynd i lawr i'r pentre' ond ar nos Sadwrn am siêf a pheint neu ddau ac adre'.

Ef oedd y bachgen yn Y Golud Gwell ag y byddai'r bechgyn yn yr Ysgol yn edliw iddo - 'Wyddost ti ddim pwy ydi dy dad na dy fam ,' Daw ef i mewn yn y bwndel a ddisgrifir yn Y Pentre Gwyn fel 'Nifer o blant cyffredin a chymharol dlodion.

Yn 1997 yr ymddangosodd Haydn yng Nghwmderi gynta a daeth yn rhan o fywyd y pentre pan ddechreuodd fynd allan gyda Kath.

Yn 1992 y daeth Karen i Gwmderi i fyw gynta a hynny at ei mam, Olwen, i siop y pentre.

Cyrhaeddodd Meic Pierce y pentre ond gwnaeth ei hun yn amhoblogaidd yn syth wrth iddo ddefnyddio gwybodaeth Sabrina Harries am y post er mwyn dwyn oddi yno.

Fe allech glywed 'i chwerthin o bell, ac roedd hi'n barod i gymysgu ym mywyd y pentre.

Penderfynodd Steffan sefydlu bragdy yng Nghwmderi er mwyn cael achos i aros yn y pentre ac yn wreiddiol 'roedd am fynd i bartneriaeth gyda Reg - yna daeth Reg i wybod am berthynas gudd Steffan a Rhian a thynnodd allan o'r fenter.

A phan fu mam Luned farw, fe ofalodd am drefniade'r angladd i gyd - camgymeriad, achos Jac y Sar sy wedi gofalu am bob angladd yn y pentre er pan wi'n cofio.

Roedd y rhai llygadog yn ame cyd-ddigwyddiad dyfodiad Madog i'r pentre a'r ergyd a gafodd Mrs Morris ar 'i chalon - gan awgrymu i Madog ddod a'r hen wraig wyneb yn wyneb a rhywbeth o'i gorffennol a bod Luned yn 'i briodi fe er mwyn iddo fe gadw'i geg ynghau.

Petai actorion eraill Cymru gyda'i gallu hi i fabwysiadu acenion fyddai dim rhaid cael cymaint o gogs mewn un pentre bach yn y de.

Yn un peth, fe ddechreuodd wherthin llai, ond plentyn 'i mam oedd hi wedi bod eriod, achos roedd 'i thad wedi marw cyn iddi hi ddechre'r ysgol, ac ma'n rhaid 'i bod hi'n gwbod bo'i mam yn colli tir wythnose cyn iddi farw, yn enwedig gan iddi hi gal ergyd ysgafn ar 'i chalon yr union wythnos y daeth Madog i'r pentre.