Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pentrefol

pentrefol

Ein dadl sylfaenol yw fod angen gweld ysgolion bychain yn asedau cadarnhaol yn y broses o adfer cymunedau pentrefol yn hytrach nag fel problemau.

Dyna paham yr ydym wedi gosod yn deitl i'r papur hwn Her i Ysgolion Gwledig. Dyna paham y gresynwn wrth glywed addysgwyr yn cwyno am 'broblemau' ysgolion pentrefol.

Cyfeiriwn, er enghraifft, at y penderfyniad gan Gyngor Sir Benfro i gau nifer o ysgolion pentrefol yn rhan o broses o adolygu dyfodol ysgolion â llai na 55 o ddisgyblion.

Yn sylfaenol, gwrthodwn yr honiad fod ysgolion pentrefol yn broblemau yn hytrach nag yn asedau i'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

Gwrthodwn yr honiad fod cymunedau pentrefol wedi marw ac nad yw felly o bwysigrwydd cymdeithasol gynnal ysgolion pentrefol.

Daeth y syniad am y 'dinesydd defnyddiol' yn gyfarwydd i wladweinwyr, sef y gwr cyffredin a allai wasanaethu'r wladwriaeth mewn sawl ffordd am ei fod yn llythrennog ac yn fwy hyblyg o'r herwydd, â'r gallu i fyw a gweithredu y tu allan i'w gylch pentrefol traddodiadol.

Credwn bod angen mynd ati mewn ffordd bositif i ddatblygu ysgolion pentrefol: rhaid rhoi'r gorau i edrych arnynt fel problemau a dechrau eu gweld fel asedau gwerthfawr i'r gymuned.

Cyn ffurfio strategaeth newydd, mae'n rhaid chwalu rhai camsyniadau am ysgolion pentrefol.

Dywed Cymdeithas yr Iaith fod angen newid agwedd llwyr, a strategaeth gadarnhaol i ddatblygu ysgolion pentrefol fel asedau gwerthfawr. Dd.

Yn gymdeithasol bu newidiadau mawr yn y gwead o fywyd pentrefol.

Gall yr Undeb fod yn drigolion stryd arbennig, aelodau rhyw gymdeithas neu gapel, cynllun pentrefol neu unrhyw fath o gymuned.

Datblygu Ysgolion Pentrefol yn Ganolfannau Addysg a Chyfathrebu i'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu - gan ddenu felly gyllid o ffynonellau hyfforddiant newydd i'w cynnal.

Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyflwyno i Jane Davidson gopi o'n dogfen 'Dyfodol ein Hysgolion Pentrefol' sy'n gosod allan 3 ffordd ymlaen i Ysgolion Pentrefol Bychain.

Bu'r iaith yn dibynnu ar ddiwylliant pentrefol yn y gorffennol, trefn sydd ywywaeth yn gwegian heddiw.

Y ddoethineb gonfensiynol yw bod ysgolion pentrefol yn unedau cartrefol ac agos ond na allan nhw gynnig yr un safon o addysg h.y. eu bod yn dda'n gymdeithasol ond nid cystal yn academaidd.

Mae adroddiadau eraill gan arolygwyr yn cadarnhau'r un argraff cyffredinol o lwyddiant academaidd yr ysgolion pentrefol bach.