Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

penwythnos

penwythnos

Gan mai penwythnos yn unig oedd gen i, byddai'n ddelfrydol hedfan i Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd felly dyma ddechrau ar y gwaith o holi am brisiau tocynnau i Gaerdydd a Bryste.

Rwyn siwr bod hyn yn addo'n dda am ornest y penwythnos nesa.

Roedd buddugoliaeth Caerdydd oddi cartre yn erbyn y Saracens yn uchafbwynt y penwythnos diwetha.

Dros fwrw'r Sul, Tachwedd 12-14, mae S4C Rhyngwladol yn trefnu penwythnos arbennig yng Nghaerdydd, pan gaiff gwylwyr gyfle i gwrdd â rhai o sêr y sianel.

'Roedd yno rywfaint o'r hen awyrgylch bendefigaidd yn aros, a theimlem, rywsut, fod yr hen adeilad urddasol yn bendithio, ac yn estyn ei nawdd, i weithgarwch y penwythnos hwnnw.

Yn wleidyddol, roedd y penwythnos yn llwyddiant mawr, a gobeithio y bydd yr ad-drefnu sy'n cael ei argymell yn y cynnig newydd yn ffordd i ni osod seiliau cadarn i'r ymgyrch angenrheidiol yma dros ddeddf iaith sy'n perthyn i'r ganrif hon.

Perfformiad cymysg arall gan y tîm wrth iddyn nhw baratoi at her fawr De Affrica y penwythnos nesaf.

Bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal Penwythnos Addysg Wleidyddol yr wythnos hon (Ionawr 15-17) fel rhan o'i pharatoadau ar gyfer dyfodiad y Cynulliad.

Wedi i bawb fachu gwely yn un o'r stafelloedd - Y Nyth (bechgyn), Y Ffae (merched), a'r Twll (chwyrnwyr), agorwyd y penwythnos gyda thrafodaeth ar y flwyddyn a aeth heibio.

Buddugoliaeth i Gymru ond bydd her y penwythnos nesaf yn llawer anoddach.

Bwriad y penwythnos oedd rhoi cychwyn ar ymgyrch fawr gynta'r mileniwm - sef y frwydr dros ddeddf iaith newydd.

Er gwaetha'r ansicrwydd oherwydd clwy'r taed a genau mae gêm fawr y penwythnos ymlaen - Cymru yn erbyn Ffrainc yng Nghystadleuaeth y Chwe Gwlad.

Cawsom gynnwrf rowndiau cyn-derfynol a therfynol y gystadleuaeth Choir of the Year yn ystod penwythnos yr Wöyl.

Dyma oedd ail gyngerdd BBC Cymru y penwythnos hwnnw.

Ychwanegodd Meira Roberts fod penwythnos wedi'i drefnu yng Ngregynog ar gyfer dysgu gwneud sampleri.

Amser cinio daeth un o uchafbwyntiau'r penwythnos.

Waeth imi fod yn berffaith onest a chyfaddef fy mod i wedi methu perfformiad Hitchcock ar ddechrau'r Ddawns Ryng-golegol yn Aberystwyth y penwythnos diwethaf ond yn sicr mi oeddwn i'n bresennol pan gamodd Chouchen i'r llwyfan.

Ar wahân i Pobol y Cwm a Newyddion, mae BBC Cymru amlycaf ar S4C mewn digwyddiadau megis yr Eisteddfod Genedlaethol (eleni, er enghraifft, cynhyrchodd bron i 30 awr o Fro Ogwr), a'r Sioe Frenhinol lle rydym hefyd yn cynhyrchu rhaglenni dyddiol, o dan y teitl Y Sioe Fawr, a rhaglen uchafbwyntiau y penwythnos canlynol.

Cofiwch ddod draw i Aberystwyth am y penwythnos i drafod a phenderfynu ar ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith am y flwyddyn i ddod ac i fynychu'r rali yn y prynhawn.

Enillodd pedwar o'r pum tîm o Gymru yng Nghwpan Heineken dros y penwythnos.

Yn wir, yr oedd gyda nifer ohonon ni luniau yn ein meddyliau o dreulio penwythnos mewn rhyw hen hongliad o adeilad oer a gwag, di-gysur a diarffordd.

Dydw i ddim yn broffwyd ond rwyn darogan y bydd y Frenhiniaeth rhyw ddydd a ddaw yn melltithio y penwythnos diwethaf wrth i'r holl ddalennau o siwgwr cyfoglyd eplesu - fel maen nhw'n siwr o wneud - yn fustl.

Serch hynny, rwyn amau na fydd Caerdydd, Wrecsam nag Abertawe yn chwarae gemau cynghrair y penwythnos yna.

Yn anffodus, un penwythnos, buodd y cwbwl bron â throi'n sur arnon ni.

Eisoes mae golygon pawb yn troi tua'r penwythnos a rownd derfynol Cwpan y Principality ddydd Sul - Casnewydd yn erbyn Castell Nedd.

Fe enillan nhw gyda llond cart o geisiau prynhawn fory yn Sain Helen, ac fe gân nhw gysgu'n dawel y penwythnos yma.

Castell Nedd neu Benybont fydd y pumed tîm o Gymru yng Nghwpan Heineken y tymor nesaf - bydd hynny'n cael ei benderfynu y penwythnos yma, hefyd.

Dydw i ddim yn edrych ymlaen at y penwythnos yma.

Trefnu i fynd i gartref Apple dros y penwythnos.

Mae'r chwaraewyr rygbi yn troi eu golygon yn ôl tua Chynghrair Cymru a'r Alban y penwythnos yma.

Mae penwythnos ola'r Cwpan Heineken, am dri mis beth bynnag, yn nesau.

Bydd y penwythnos yn cynnwys pryd canol dydd o sglodion a physgod gyda Mrs OTT (GILLIAN ELISA), cinio'r hwyr gyda'r cogydd, DUDLEY NEWBERY a thaith o gwmpas Stadiwm y Mileniwm yng nghwmni RAY GRAVELL.

Gyda phawb sy'n dod ar y penwythnos yn aros yng ngwesty pedair seren Jury's ynghanol Caerdydd bydd amser rhydd yn cael ei neilltuo ar gyfer mymryn o siopa Nadolig yn y brifddinas yn ystod yr ymweliad.

Ffonio, am ei bod wedi mynd gartref dros y penwythnos ac nad oedd unrhyw un arall yno.

Penwythnos ardderchog.

Mae Cyfarfod Cyffredinol y Gymdeithas newydd fod, a chafwyd llond penwythnos o hwyl, sbri a gweithredu.

Rhaid imi gyfaddef, fod y demtasiwn yn gref a bu bron imi wneud rhywbeth eithafol am gwallt cyn bwrw i barti pen-blwydd fy ffrind Sophie yn Llundain dros y penwythnos.

Cofiwch am y penwythnos o ddathlu llawen yn Aberystwyth wrth i'w Mawrhydi ymweld â'r dref -- penwythnos Twll Tîn i'r Cwîn, a gynhelir yn y Cwps.

Mae'r penwythnos yn dechrau heddiw.

Gellir bwcio Penwythnos Sêr S4C trwy ddau drefnydd teithiau o bwys yng Nghymru; Silver Star Holidays yng ngogledd Cymru a Diamond Holidays yn ne Cymru.

Yn ystod ein penwythnos gyntaf yn y Brifysgol fe gynhaliwyd y treialon.

Mae'n ymddangos bod y bobol busnes yn dianc i'r maestrefi yn y de a'r gogledd i fwrw'r penwythnos.

Gallech hyd yn oed drefnu penwythnos o wyliau, gwisg newydd, neu bryd o fwyd yn eich hoff dŷ bwyta fel eich gwobr derfynol.

Falle bydd Bangor yn arwyddo R. Giggs erbyn eu gêm yn erbyn Rhayadr ar y penwythnos.

Gêm y penwythnos yn ddïau fydd honno rhwng Caerfyrddin, y tîm sy'n ail, ac Aberystwyth, sy'n drydydd.

Dros y penwythnos un digwyddiad na fydd yn cael ei ganslo oherwydd y prinder petrol fydd y daith gerdded 150 milltir a drefnir gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg o'r Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd (11 o'r gloch Dydd Sadwrn) i'r Senedd yn Llundain.

Ond penwythnos siomedig fu hi'n gyffredinol i glybiau Cymru yng Nghwpan Lloegr.

Charlie, athro yn Ne Hunan yn ffonio i ddweud helo a gofyn inni fynd am dro lawr i Yangshuo dros y penwythnos.

Dros y penwythnos cafwyd pedwerydd Gwyl Pendrawr Byd a hynny ar draeth godidog pentref hudol Aberdaron.

Bendithiwyd y penwythnos, drwy lwc, â thywydd braf ac achosodd hynny i deuluoedd a thrigolion yr ardal heidio i'r pentref.

Sawl gwaith y clywais i hyn gael un o aelodau staff Cymdeithas yr Iaith (wel, yr unig aelod arall o'r staff a dweud y gwir), cyn i ni fentro i Bentre Ifan ar gyfer y Penwythnos Addysg Wleidyddol ym mis Ionawr.

Mae'r Penwythnos, o dan y teitl 'Gweithredu, Lobïo a'r Cynulliad', i'w chynnal yng Nghanolfan Rhyd-ddu, Gwynedd, a'r bwriad yw edrych ar sut i gyfuno dulliau lobïo newydd gyda gweithredu uniongyrchol.

Byddant ym Mharc Margam y penwythnos yma a gobeithio na fyddant yn hir cyn dychwelyd i Gymru wedyn.

Y penwythnos wedi Paris bydd y prif chwaraewyr yn dychwelyd at eu clybiau ar gyfer rownd wyth ola Cwpan y Principality.

Pêl-droedwyr y gogledd aeth a hi yn y ddarbi Gymreig y penwythnos yma - Wrecsam yn curo Abertawe yn y gêm ddarbi Gymreig yn yr Ail Adran.

Dwedodd ar y Post Cyntaf bod y tîm wedi treulio'r penwythnos yn llyfu'u clwyfau ac yn gobeithio am well canlyniad ddydd Mercher.

Yn hytrach nag i ni fynd i Gaernarfon, credaf ei bod yn well gan hogiau Caernarfon ddod atom ni er mwyn iddynt gael penwythnos yn Lerpwl.

Gofynnais iddo ganiata/ u i ferch mor ddawnus â Miss Derwent gael mynychu Cynhadledd y Cilgwyn, Castellnewydd Emlyn, a oedd wedi ei threfnu ar gyfer y penwythnos olaf ym mis Medi.