Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

per

per

Y maent yn ariannu cyrsiau/colegau per capita, hynny yw, yn rhoi arian ar gyfer pob myfyriwr/wraig sydd wedi cofrestru.

Mae cariad wedi taflu rhwyd O sidan am fy nwyfron Per swynol rwyd o wead serch Y ferch a bia 'nghalon Ac yn y rhwyd 'rwy'n byw a bod Ni fynnwn fod ohoni Ac yn y rhwyd y gwnaf barhau Nes gwnawn ein dau briodi.

Mae'r planhigion blynyddol fel llau'r perthi a'r ffrom- lys a'r pys per yn gwasgaru'r had, yn gwywo a marw, a'r hadyn wedyn goroesi'r gaeaf i egino yn y gwanwyn.

dyw cerdd ddim yn dda am ei bod mewn cynghanedd gywir yn unig, dyw'r gynghanedd per se ddim yn cyflenwi cerdd â rhyw rinwedd.

Mae llawer o chwedlau am Dimitrius - ei wyrthiau a'r olew per a darddodd o'i fedd.

Bu tipyn o glochdar am ben Wil Dafis o'r herwydd felly, ef a'i ragolygon carwriaethol bondigrybwyll ef a'i 'rywun annwyl'; a hael ei gwala fu'r hwyl am ei freuddwydion llancaidd pur uwchben peintiau per yng Ngwesty'r Llong.