Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

perchennog

perchennog

Y mae'r wybodaeth a gesglir trwy'r cyfryngau hyn yn anhepgorol i'r perchennog neu'r rheolwr, er mwyn iddo osgoi camgymeriadau'r gorffennol a gwella perfformiad y busnes.

Creadur digon surbwch oedd y perchennog.

Perchennog y Deri Arms.

Ychydig ddyddiau wedi hynny gofynnodd perchennog y llety lle roedd Pamela'n byw, "Ydych chi wedi gweld y bobol sy wedi dod i'r Poplar?

'Heb frifo, 'naddo?' gofynnodd y perchennog yn dawel.

Rhyw ddyrnaid o'r ffrindiau pennaf a wyddai mai ef hefyd oedd perchennog yr unig gwmni Polion Galwp yn y wlad, a'r wythnosau twrnament oedd ei dymor gorau ar wahan i amser etholiadau.

ond byddai'r Cyngor yn debygol o gefnogi cais y perchennog pe byddai grant ar gael.

Pan oedd John Walter II, perchennog The Times, yn methu â chael adroddiadau dibynadwy o Ewrop am ymgyrchoedd Napoleon, fe drefnodd fod Robinson yn mynd yno i anfon ei straeon ei hun.

Hwn - Azariah Richards wrth ei enw, ond 'Ap Menai' ar dafod pawb - oedd perchennog, golygydd, beirniad gwleidyddol, diwinyddol, cymdeithasol, a llenyddol Y Gwyliwr.

Perchennog yr Henllys Hall oedd piau'r Fireball, y cwch y soniodd Clint amdano wrth Picsi.

Plesiwyd Cela Trams yn fawr gan y syniad hwn oblegid ef oedd perchennog y cwmni enwog a redai'r pyllau a'r hapchwaraeon yn N'Og.

Roedd perchennog Dremddu Fawr yn hen gymeriad craffus iawn ac yn þr o flaen ei oes fel amaethwr.

Y bore cyntaf hwnnw, pan ddaeth perchennog y siop ati i weld sut oedd yn dod yn ei blaen, gwelodd ei bod yn gwneud yn ardderchog.

Trafodwyd y mater gyda'r perchennog pryd y cyfeiriodd at y ffaith mai ar gyfer pwrpas amaethyddol oedd y sied (nid ar gyfer anifeiliaid) a'i fod wedi gwasgaru "hardcore% tros y llain er mwyn cael mynedfa rwyddach i'r tir.

Pan gyrhaeddais gysgod y feranda y tu allan i'r stafell bwyso, roedd yr hyfforddwr a'r perchennog yno'n barod yn aros yn gyhuddgar.

Dyma gyfle arbennig i chi geisio dyfalu pwy yw perchennog y llais cudd yng nghystadleuaeth Adnabod y Llais.

Dyn busnes o Donegal, yng Ngweriniaeth Iwerddon, a chyn-aelod o'r Dail yw perchennog y gwesty, James White.

Os gwerthir car fu'n eiddo i berson enwog, llwyddiannus neu gyfoethog, bydd pobl yn heidio i brynu'r car yn y gobaith y caiff lwc y cyn-berchennog ei drosglwyddo i'r perchennog newydd gyda'r cerbyd.

Llyfr clawr caled, swmpus fydd e, meddai Myrddin ap Dafydd, perchennog Gwasg Carreg Gwalch.

A stamp y perchennog ar ei chymeriad hithau hefyd efallai.

Ond y drafferth i'r hogia oedd fod y perchennog digywilydd wedi dwyn angorfa Sam Llonga, a byddai hwnnw'n gandryll.

Yr oedd y perchennog yn awr wedi gwneud cais i'r Cyngor ddiddymu'r Rhybudd Cau ond argymhellodd wrthod y cais.

Wrth gyrraedd y Plas mae yna sgwrs rhwng y perchennog a'r ddwy ymwelydd sy'n rhoi ymdriniaeth ysgafn o'r dryswch mae'r ddwy dafodiaith yn gallu ei greu.

Dyma gasgliad o ddoethinebau'r muriau hynny drwy law y perchennog ei hun:

Cyhoeddwyd fod John de Lorean, perchennog y cwmni ceir a fu'n hapfasnachu swyddi yng Ngogledd Iwerddon gydag arian y Llywodraeth, wedi'i brofi'n ddieuog o drafnidio cyffuriau yn yr Unol Daleithiau.

Perchennog y lladd-dy yw Mr Emrys Roberts, Llanrwst ac mae'r adeilad yn cael ei ddefnyddio ganddo ef, yn ogystal a Me Elwyn Williams a Mr Emlyn Thomas, Trefriw.

Edifarhaodd na fuasai wedi prynu'r ceffyl nychlyd y cafodd ei gynnig y noson gynt, ceffyl perchennog y tŷ yfed, y corrach cringoch hwnnw.

meddai Mr Edward Windsor, perchennog y gwesty, wrth i ni gyrraedd.

'Doedd mam perchennog y llais - un o wragedd Tai Teras - newydd adael ei gwr am longwr tir sych a ddaeth i Wersyll Penychain i ddysgu morio.

Byddai'r hyfforddwr yn gosod y bai arna i ac yn dweud wrth y perchennog 'mod i wedi camfarnu'r ffens.

Gan bod y cynllun a gymeradwywyd yn dangos y dylai'r wal ffin gyd-redeg â wal ffin llain cyfochrog, ysgrifennwyd at y perchennog yn ei gynghori i wneud y gwaith yn unol â'r cynllun a gymeradwywyd.

Nid oedd hynny yn ei wneud yn gymwys am grant ac ni chai'r perchennog osod y tŷ.

Gair i gall: mae angen gofyn caniatâd y perchennog cyn ymweld â chaeau Tan y Bwlch.

Bydd pedwar cam i'r ymgyrch: (1) caiff pob perchennog o 48 awr hyd at 90 diwrnod i wella'r sefyllfa; (2) dirwyon o hyd at 2.5m peseta; (3) atafaelu eiddo os na wneir sylw o argymhellion yr arolygwyr; (4) estyn y ddeddfwriaeth i weddill y gymuned.

Cyfoeth o storiau, am ei ddyddiau cynnar fel siopwr gwlad, oedd forte Evan Jones, y perchennog, a gallai ddifyrru'r oriau gydag atgofion am y llon a'r lleddf.

Mae'n rhaid i ni fynd ag e i orsaf yr heddlu i weld os fedran nhw ddod o hyd i'r perchennog.' `Mae'n debyg dy fod ti'n iawn.' `Rydw i'n gwybod fy mod i'n iawn.' Aeth y plant â'r arian i swyddfa'r heddlu yn Warrington.

Mae angen i'r Cyngor hysbysu'r perchennog o hyn, neu gellir codi tâl am eu dychwelyd.

'Rydach chi'n uwch na nhw, eu cyflogwr, y perchennog .

'Roedd y perchennog erbyn hyn wedi paratoi costau a oedd yn dangos grant yr uned llawer mwy rhesymol ac y gellid ei gefnogi drwy gais i'r Swyddfa Gymreig.

Perchennog Caffi'r Cwm.

Gwerthwyd yr eiddo i'r perchennog presennol ar ôl hynny heb i ddatblygiad gymryd lle yno.

Enw'r tŷ oedd Tangerine House - y perchennog yn ddigon craff i wybod beth allai ddigwydd petai'n rhoi enw cywir lliw y tŷ - oren!

Wrth weld eu mam yn wylo dechreuodd y plant hefyd wylo a daeth perchennog y llety i fyny'r grisiau i weld beth oedd yn digwydd.

Wrth daflu dþr dros y car mae'r perchennog yn gwahodd natur i wneud yr un fath!

Mae un diwydianwr - y perchennog busnes biotec Dr Chris Evans - wedi galw ar y Cynulliad i dreblu'r cyflog presennol, £100,000, er mwyn denu'r person gorau.

Perchennog Garej Cwmderi.

Un perchennog fu'n amaethu'r tir am gyfnod maith gan ddefnyddio dulliau traddodiadol.

Derbyniwyd ar ddiwrnod y Pwyllgor gais cynllunio diwygiedig gan y perchennog.

Er i'r perchennog drafod y sefyllfa ymhellach yn y swyddfa nid oedd newid wedi digwydd yn y sefyllfa.

Safai'r efail a bwthyn y perchennog ar ymyl yr heol a llonnwyd pawb o weld y mwg yn esgyn i'r awyr.

Nodiais a gwenu'n ymddiheurol ar y perchennog.