Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

perchnogion

perchnogion

Fel yn yr ardaloedd diwydiannol, roedd y perchnogion tiriog yn yr ardaloedd gwledig fel petaent yn anymwybodol o ddiffygion arswydus eu deiliaid.

Dyna'r rheswm fod siopau Tripoli mor fach; maen nhw fel rhesi o focsys esgidiau am ei bod yn anghyfreithlon i gyflogi cynorthwywyr, ac o'r herwydd dyw'r perchnogion ddim yn medru ehangu.

Yn ôl BNFL, perchnogion yr atomfa, does yna ddim rheswm i bryderu.

A ydyw'n talu i'r perchnogion roi eu harian yn y fenter yn hytrach na'i osod, dyweder, yn stoc y Llywodraeth?

Yr oedd i Ogledd Cymru ran bwysig yn y gweithgaredd hwn gan mai yma yr oedd gwreiddiau llawer o'r perchnogion llongau.

Mewn gwirionedd nid yw catalog ond yn gofnod o leoliad ac amser y sioe ynghyd a rhestr o'r anifeiliaid a gymerodd ran a'u perchnogion.

Pwysleisiodd yn ei ddatganiad fod gan John Hollins ddwy flynedd arall o gytundeb fel rheolwr - mi wnaeth o arwyddo'r cytundeb yn gynharach yn y tymor - a bod cwmni Ninth Floor, perchnogion presennol y clwb yn bwriadu parchu'r cytundeb hwnnw.

Perchnogion tai yn unig." A dyna ddatgelu'r gwirionedd.

Nid edrychai'n fygythiad i ddim ar y pryd wrth i'r perchnogion newydd balch eistedd o'i flaen am y tro cyntaf i wylio'r ceffylau yn neidio'r clwydi neu'r dawnswyr syber yn chwyrlio'u partneriaid fflownsiog ar loriau llithrig y neuaddau crand berfeddion nos.

Roedd perchnogion siopau wedi gosod baneri a rhubannau y tu allan i'w siopau ac yn benderfynol o wneud y gorau o'r digwyddiad.

Rhyw ffyrm o Lundain oedd perchnogion y chwarel.

Winston Churchill oedd cocyn hitio pawb wedi i streic y Cambrian ddarfod: 'Oedodd yn rhy hir cyn danfon y milwyr i fewn', meddai perchnogion y pyllau glo; 'buasai'n well iddo ddefnyddio'r fyddin ar bob adeg, yn hytrach na'r heddlu', honnodd ASau Torlaidd a Rhyddfrydwyr asgell-dde.

Fel rhan o'i ymgyrch i ddelio ag ymddygiad anghymdeithasol mae'r llywodraeth yn ystyried cynlluniau i gosbi perchnogion tafarndai anghyfrifol.

Ceir a moto-beics a pheiriannau yw rhai o'r 'petha' yr hoffai weld mwy o le iddynt mewn print - nhw a'u perchnogion.

Mae dyfodol Queens Park Rangers, a'i chwaer-glwb, clwb rygbi Wasps, yn ansicr ar ôl i'r gweinyddwyr gael eu galw i fewn gan y perchnogion, Loftus Road Cyfyngedig.

Cyn diwedd streic y Cambrian, penderfynasai Undeb y Morwyr ymwrthod â gwaith o fis Gorffennaf ymlaen, nes bod perchnogion y llongau yn cydnabod yr undeb ac yn talu cyflogau mwy rhesymol.

Y cwbl ddwedwn i, os daw perchnogion newydd i'r clwb, go brin y bydden nhw'n fodlon parchu'r cytundeb hwnnw.

Mae'n bosibl hefyd i'r perchnogion gael eu dirwyo.

Pwy, tybed, oedd perchnogion y cwch?