Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

peredur

peredur

Mae prif thema La Queste a Perlesvaus yn sylfaenol debyg, ac yn sawru o Gristnogaeth asetig: er mai marchogion llys Arthur yw'r gorau yn y byd, mae eu diffygion moesol yn eu rhwystro rhag cyflawni'r gamp uchaf oll a chanfod y Greal; cedwir y fraint arberlnig honno i farchog ysbrydol a moesol berffaith, sef Persifal (cefnder cyfandirol Peredur y traddodiad Cymreig) yn Perlesvaus, a Galaad neu Galaath (sy'n fwy cyfarwydd bellach fel Galahad), arwr newydd sbon a ddyfeisiwyd yn arbennig ar gyfer y dasg yn La Queste.

Y mae Geraint wedi'i addysgu, nid yn nyletswyddau marchog fel y bu rhaid gwneud yn achos Peredur wladaidd, ond fel llywodraethwr, a'i gyfrifoldeb ef bellach yw cynnal ei lys ei hun, amddiffyn ei derfynau ac ymgymryd â dyletswyddau arglwydd.

Nid oes gennym yn y Gymraeg yr un chwedl am Drystan i'w chymharu â'r rhain, er bod arwyr Arthuraidd eraill, megis Peredur ac Owein, wedi cael sylw mewn nifer o destunau rhyddiaith Cymraeg Canol.

CANHWYLL MARCHOGYON - CYD-DESTUNOLI PEREDUR: Goln.

Wrth greu categori 'y rhamantau' neu 'y tair rhamant' pwysleisiwyd gennym nodweddion a barai fod Peredur, Iarlles y Ffynnon, Gereint ac Enid rywsut yn sefyll ar wahân braidd i brif ffrwd y testunau rhyddiaith storiol 'brodorol' (ac nid oes rhaid ailrestru nodweddion tybiedig y rheini yma), ac aethpwyd ati i'w cymharu â'i gilydd er mwyn darganfod y priodoleddau cyffredin a allai gyfiawnhau eu gosod oll yn yr un dosbarth.

Cyfrol o astudiaethau yn edrych o'r newydd ar chwedl Peredur.