Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pererinion

pererinion

Yn yr awdl mae un o'r delwau a geir yn Nhyddewi yn holi pererinion, ac yn gofyn a ydyw'r Cymry yn parchu eu hiaith o hyd ac yn gwerthfawrogi harddwch y wlad.

Mae un o'r pererinion yn ateb drwy ddweud fod cyfalafiaeth a diwydiant yn hagru'r wlad, a chyfeirir at ddiweithdra'r tridegau ynddi hefyd.

Gyda threigl y canrifoedd dirywiodd yr adeiladau coed, sef tai'r bobl gyffredin a siopau a thai gorffwys y pererinion.

Cynigiai Dwynwen gymorth i'r ddau ryw a heidiai pererinion i'w ffynnon ar Ynys Llanddwyn i wybod a gaent eu cariadon ai peidio.

Tyddewi, wrth gwrs, oedd prif gyrchfan y pererinion yng Nghymru, er na allai gystadlu o ran braint a bri â Sain Siâm neu Rufain neu Gaersalem dros y môr.

Pererinion yw teitl un a Gwlad Llŷn yw teitl y llall.