Dyma felly gyfeiriad sy'n nodi Arthur fel patrwm o'r milwr perffaith, a phe gallem gredu fod holl destun y Gododdin, fel y mae traddodiad yn honni, yn waith bardd o'r chweched ganrif, gallem ddweud fod gennym yma grybwylliad o Arthur o fewn canrif, neu lai, i'w gyfnod ei hyn.
"Roedd fy nhad gyda'i anffurfioldeb arferol yn dymuno i mi atgoffa Miss Davies fod perffaith ryddid iddi ddod â ffrindiau neu deulu i aros yn y fflat unrhyw adeg, ond os bydd rhywun yn dod yno i fyw ar sail fwy parhaol, efallai y byddai hi garediced â gadael iddo fo gael gwybod er mwyn iddo gael trefnu ynglŷn â'r rhent.
Anfonodd Duw ei Fab Iesu i'r byd yn gyflawn o'r bywyd perffaith i'n dysgu amdano ac i'n gwahodd bawb, gwerinoedd yr holl ddaear ,i mewn i'w Deyrnas ei Hun." Oblegid ei fod yn gweld "Gormes gyfalafol-imperialaidd yn caethiwo plant y Tad yng Nghymru ac yn eu difreinio%, meddai Gerallt Jones, "Y mae'n genedlaetholwr Cymraeg o Gristion".
Ar hyd y canrifoedd mae llawer iawn o ymchwil wedi ei wneud, gan chwaraewyr gorau'r byd, i ddod o hyd i AGORIADAU perffaith.
Teimla'r Gymdeithas ei bod yn bwysig mynd a'r Wyl i fannau fel hyn, lle y cafwyd brwdfrydedd lleol anhygoel a chydweithrediad perffaith y pwyllgorau lleol a'u swyddogion i gynnal g^wyl oedd gyfuwch ei safon a'r un a gynhaliwyd.
Mewn byd perffaith mae'n rhaid wrth berffeithrwydd ond mae'r perffeithrwydd hwnnw'n dibynnu ar ba ochr o'r spectrwm gwleidyddol yr ydych yn sefyll.
Henffych, Iesu, 'r Duw tragwyddol, Gwir a sanctaidd, perffaith ddyn!
Aeth y llythyr ymlaen i nodi bod perffaith hawl gan yr Awdurdod i wario'r swm a fynnent ar brynu llyfrau.
Ffeithiau oedd dymuniad Mr Gradgrind, ymgorfforiad perffaith o awch oes Victoria amdanynt.
a ffrydio ymlaen a wna i gyfeiriad môr gwareiddiad perffaith pan ddeallo pob dyn am 'Deyrnas Dduw' mai 'ynoch y mae'.
Ynys o graig a'i bilidowcars yn teyrnasu arni, y goleudy'n gannaidd, amlinell croes Dwynwen ar las y nen, gweddillion ei heglwys yn swatio yn y pant a bae bach perffaith oddi tanoch.
Yn ei gerdd 'Hendref' mae'n rhoi disgrifiad perffaith o warth 1979: 'Mawrth y gwrthod a'r gwerthu'; ond wedi ystyried y brwydrau i warchod Cymreictod yn yr wythdegau, mae'r bardd yn gweld fod gobaith o hyd.
Y mae'r syniad o Baradwys mor aml â blas, a gallu dyn, a'i ddychymyg i feddwl a breuddwydio am y lle perffaith iddo ef ei hun.
Yn y cyd-destun hwnnw amlygid amodau ymddygiad greddf, dirnadaeth ynghyd â'r gallu angenrheidiol i ymateb yn briodol i sefyllfaoedd arbennig ac i'r addysg honno a gyfrennid i'r uchelwr ac a ddyfnhâi ynddo'r priodoleddau hanfodol ym mywyd y gŵr perffaith.
Roedd hon yn record o sgôr i Gymru yng Nghwpan y Byd, dechrau perffaith a'r 5,000 ddioddefodd yr elfennau yn cael gwerth eu harian.
Canfyddir y delfryd yn eglur iawn yn Il Cortegiano gan Castiglione lle y disgrifir prototeip y gŵr bonheddig perffaith, sef y cortegiano amryddawn ac eang ei gyraeddiadau a fagodd chwaeth at ddysg, celfyddyd, a bywyd cyhoeddus.
Aelwyd oedd hi, yn anffodus, lle credid bod Dr John Williams, Brynsiencyn a Dr Thomas Charles Williams yn wŷr perffaith.
Mae amseriad y ferf yma hefyd, sef y amser perffaith yn golygu rhywbeth sydd wedi yn ganlyniad i weithred a gyflawnwyd yn y gorffennol.
Cafwyd dechreuad perffaith pan sgoriodd Nathan Blake ar ôl 13 munud.
Dwi'n casau llnau ac ati â chas perffaith.
Roedd disgwyliadau mawr am y gêm hon ac fe gawson ni gêm oedd yn adlewyrchiad perffaith o'r gystadleuaeth, meddai cyn-gapten a golwr Cymru, Dai Davies.
Hen air sydd yn cael ei or-ddefnyddio wrth ddisgrifio nofelau – ond y tro hwn, y gair perffaith.
Gall y nifer o hecsagonau amrywio - os mai ugain hecsagon sydd ceir sfferoid perffaith y bêl bêl-droed.
Yr oedd yn gwneud perffaith synnwyr i'r dyn cydnerth ai gyhyraun sgleinion frown ar sgrins sinemau fod yn Mr World - ond yn gwbwl afresymol i Erciwl y sgrin fod yn Mr Universe hefyd.
Y gobaith yw y bydd y CD yn y siopau cyn y Nadolig - perffaith ar gyfer yr hosan yna.
I Merêd roedd holl awyrgylch y lle'n amheuthun - y symlrwydd cyntefig ac yn arbennig yr heddwch perffaith heb na cherbydau swnllyd na phobl drystfawr i'w ddifetha.
Y mae'r syniad am aberth yn rhagdybio y gall dyn gael cymundeb perffaith â Duw yn unig drwy aberthu bywyd.