Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

perfformiad

perfformiad

Roedd yna ddisgwyl rhywbeth wrthyn nhw cyn y gystadleuaeth ond roedd y perfformiad yma yn un gwych.

Y mae'r wybodaeth a gesglir trwy'r cyfryngau hyn yn anhepgorol i'r perchennog neu'r rheolwr, er mwyn iddo osgoi camgymeriadau'r gorffennol a gwella perfformiad y busnes.

Dyma wendid mawr y cyngerdd: roedd yr awyrgylch a'r canu yn wych ond trueni na fyddai'r trefnwyr wedi gosod sgriniau er mwyn osgoi yr holl wthio a stwffio yn ystod y perfformiad.

Perfformiad cymysg arall gan y tîm wrth iddyn nhw baratoi at her fawr De Affrica y penwythnos nesaf.

Yng nghanol cynifer o bethau da, trueni nad oedd pob perfformiad yn cyrraedd yr un safon ac yr oedd gwendid yn rhan Valentino - er ei bod yn anodd rhoi bys ar yr union beth oedd o'i le.

Mae Cymru, felly, trwodd i'r wyth ola ond gynta bydd rhaid wynebu Seland Newydd yn Stadiwm y Mileniwm a fydd y Crysau Duon ddim yn poeni gormod ar ôl gweld perfformiad simpil y Cymry neithiwr.

Daeth 60 o Gymry Cymraeg allan yn y glaw i weld y perfformiad hwnnw.

Yr holl beth wedi ei drefnu fel perfformiad enfawr er nad oedd unrhyw un wedi dweud gair am hyn wrth Kate a finnau.

o'r unedau yma yn gwerthu tocynnau i bob perfformiad, swyddogol ac ymylol.

"Yr oedd Cura yn wefreiddiol ac fe ddaeth â rhywbeth cwbl arbennig i'r perfformiad," meddai Mary.

Daeth y ddau Mephistopheles (Christian Bradshaw a Ben Addis) ag elfen o ddoniolwch manig i'r perfformiad, ond heb gollir dychryn sinistr.

Cwestiynau oedd yn procio'r meddwl wrth wylio a mwynhau perfformiad pedwar actor dawnus mewn sefyllfaoedd o wir dyndra ar adegau ac yn llawn hiwmor dro arall.

Deuai o hyd i'r defnyddiau 'ail-law' hyn ar hyd y strydoedd o gwmpas Coleg Sant Martin, a gwelai'r broses o greu a'r gwrthrych gorffenedig fel perfformiad.

Gyda Barry John yn hynod hael ei ganmoliaeth i Arwel Thomas yn dilyn y gêm yn erbyn Samoa yr oedd yn anodd deall pam y bu Graham Henry mor grintachlyd â disgrifio perfformiad y maswr bach fel adequate yn unig.

Caiff perfformiad Tîm Rheoli S4C ei fonitro i sicrhau fod y strategaeth yn cael ei gwireddu.

Defnydd o'r Perfformiad

Caiff dyletswyddau y Cyngor Darlledu eu rhestru yn Siartr y BBC. Yn fyr, maent yn cynnwys: sefydlu a monitror farn gyhoeddus am raglenni a gwasanaethau drwy ymchwil cynulleidfa; cynghorir BBC ar sut mae'r amcanion yn adlewyrchu buddiannau Cymru; cynorthwyor Gorfforaeth i lunio amcanion, eu monitro a helpur gwaith o ddosrannu cyllid ar gyfer rhaglenni a gwasanaethau o fewn cyllideb gyffredinol Cymru; cyflwyno barn i'r BBC os oes newid arwyddocaol yn sail adnoddur Gorfforaeth; gwneud yn siwr fod unrhyw sylwadau, cynigion a chwynion a wneir gan gynulleidfaoedd yng Nghymru yn cael eu trin yn addas; adolygu a mynegi barn am raglenni â gynhyrchir gan BBC Cymru fel rhan o'r Adolygiad Perfformiad Blynyddol; gwneud yn siwr fod anghenion talwyr y ffi drwydded yn cael eu diwallu yn gyffredinol; gwneud sylwadau ar y cyd-destun cystadleuol a gwleidyddol yng Nghymru i'r graddau y maen effeithio ar raglenni a gwasanaethau BBC Cymru.

Cafwyd perfformiad ardderchog gan Victoria Safronova y soprano o Israel - bywiog â nodau crisialaidd.

Roedd perfformiad chwaraewyr Portiwgal yn llawn ymdrech ac agwedd a chymeriad ac feu gwnaethon nhw hin anodd iawn i'r Ffrancwyr ennill.

Roedd perfformiad Elina Garanca neithiwr cystal ag unrhyw un a glywais erioed.

'Ar ôl sawl anaf a sawl perfformiad digon cyffredin mae Calzaghe 'nôl ar ei ore a wedi llwyddo i droi'r cloc yn ôl,' meddai'r dyfarnwr Wynford Jones ar y Post Cyntaf y bore yma.

Cafwyd perfformiad swynol yn y Lieder gan y soprano o'r Iwerddon, Franzita Whelan, cystadleuydd cynta'r noson.

R'yn ni'n trio gwitho'n galed a joio hefyd." Mae Rhys Evans sy'n actio'r prif gymeriad ar y llwyfan bron trwy gydol y perfformiad - dyna pam yr aeth Laurel Davies am ddisgybl chweched dosbarth ar gyfer y gwaith.

Waeth imi fod yn berffaith onest a chyfaddef fy mod i wedi methu perfformiad Hitchcock ar ddechrau'r Ddawns Ryng-golegol yn Aberystwyth y penwythnos diwethaf ond yn sicr mi oeddwn i'n bresennol pan gamodd Chouchen i'r llwyfan.

Ond cafwyd perfformiad arbennig gan Gymro yn y gystadleuaeth.

Neur oedd cystal â bod yno wrth wylio perfformiad ysgytwol, gwreiddiol Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru o Faust Goethe yn Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol Cymru.

Perfformiad ar ffurf promenâd oedd y cynhyrchiad, y gynulleidfan cael eu harwain o amgylch adeilad mewn cyflwyniad realistig.

Yn dilyn perfformiad gan Ysgol Ramadeg Friars yn yr Eglwys Gadeiriol, fe gafodd ei ddewis i gymryd rhan mewn rhaglenni drama a oedd yn cael eu cynhyrchu yn stiwdios Brynmeirion.

Llwyddwyd i addasu'n gyflym i anghenion cyfnewidiol BBC Cymru a'n cwsmeriaid eraill yn ogystal â chyflawni perfformiad ariannol cryf iawn.

Mae'r Arolwg Perfformiad gydol y flwyddyn wedi dangos yn glir i'r Cyngor Darlledu bod gwneuthurwyr rhaglenni BBC Cymru, a'r rhai sy'n gyfrifol am strategaeth gyffredinol, wedi darparu cyfoeth o raglenni radio a theledu a fu'n berthnasol ac adloniadol i'r gynulleidfa sy'n gwrando ac yn gwylio.

Roedd rheolwr Cwmbran, Tony Willcox, yn fwy na bodlon gyda'r perfformiad ac yn parhaun ffyddiog y gallan nhw ennill yn yr ail gymal ddydd Sul nesaf.

Fel y mae'r ddrama gerdd hon yn cynnwys drama gerdd, ac fel y mae'r bobol ifanc wedi bod yn ymarfer perfformiad am bobol ifanc yn ymarfer perfformiad, mae'r neges a'r cyfrwng yn un.

Gall Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru lawenhau iddyn nhw gyflwyno perfformiad y buasai unrhyw gwmni proffesynol yn falch ohono.

Mae'n ddyletswydd arnom ni i gyd roi perfformiad teilwng.

Un o binaclau perfformiadol plant y Capel Mawr oedd perfformiad o "Cantata'r Adar" gan Joseph Parry.

Llwyddwyd i addasun gyflym i anghenion cyfnewidiol BBC Cymru an cwsmeriaid eraill yn ogystal â chyflawni perfformiad ariannol cryf iawn.

Y mae'r flwyddyn yn gyfnod naturiol i'w ddewis er mwyn gwneud cyllideb ond bydd llawer o fusnesau (os ydynt o unrhyw faint) yn gwneud cyllideb am fis neu chwarter, ac yn gwylio'r perfformiad trwy gynhyrchu cyfrif a'i gymharu â'r gyllideb ar ddiwedd y mis neu'r chwarter.

Dywedodd Graham Henry bod perfformiad Neil Jenkins a Robert Howley yn Ffrainc ddydd Sadwrn wedi profi eu bod nhw'n chwaraewyr o'r safon ucha.

Perfformiad cyntaf Tosca gan Puccini.

iii) arolygu ac adolygu perfformiad, polisi%au, gweithdrefnau diogelwch cyffredinol ac ati gyda golwg ar wneud addasiadau angenrheidiol ac argymell diwygiadau, polisi%au newydd ac yn y blaen i leihau tueddiadau anffafriol;

Ond o'u cymharu a'r perfformiad ei hun dydi'r pedair awr o ymarfer ond megis chwinciad.

Er gwaethaf y perfformiad da hwn, mae amrywiaeth o ffactorau allanol a all effeithio ar y gyfradd, a bydd yn cymryd cyfnod sylweddol o amser a buddsoddiad i gynnal y cyfraddau cymeradwyaeth sy'n sylweddol uwch na'r rheini a gofnodwyd ar gyfer 1999.

Wedi'r cwbl, penllanw llafur Gwyn fyddai'r perfformiad, a chystal i mi weld y bobl enwog a oedd i gymryd y rhannau blaenllaw.

Aeth ambell aelod o'r gynulleidfa adref mewn dagrau, eraill mewnsyndod ond pawb yn teimlo iddynt elwa o weld perfformiad diddorol, grymus ac addysgiadol.

Er enghraifft, rydym wedi amlygu a blaenoriaethu ein perfformiad wrth ymateb i alwadau ffôn i'r fath raddau fel y llwyddwyd, ym mis Ebrill, i ateb dros 70% o alwadau o fewn tri chaniad ac 80% o fewn pum caniad.

Dechreuodd pethau fynd yn flêr, ac yng nghanol eu perfformiad o Ty ar y Mynydd - un o'u caneuon mwyaf poblogaidd yn rhyfedd iawn - penderfynodd aelodau Maharishi mai doeth fyddai iddynt adael y llwyfan.

Rhaid i chi fynd i weld y perfformiad i gael eglurhad o hynny!

Erbyn iddyn nhw weld perfformiad Cura, y mae'n nhw'n falch na allent ei fforddio.

Does yna'r un grwp yng Nghymru sydd mor fywiog a chyfoes ê'r Tystion (ag eithrio Anweledig o bosib) ac ni all neb wadu hynny yn dilyn eu perfformiad gwefreiddiol yn y ddawns ryng-golegol.

Ar ôl dechrau da yn eu gêm bencampwriaeth yn erbyn Sir Gaerwrangon, siomedig oedd perfformiad Morgannwg yn Sain Helen ddoe.

Ro'n i'n siarad â Lyn Howells ar ôl gêm Toulouse a roedd e'n hapus gyda'r perfformiad.

Cafwyd perfformiad aeddfed dros ben gan Stevens.

Gwelid ffrwyth darpariaeth drylwyr yn y cydweithrediad hapus a llyfnder y perfformiad drwyddo; yn wir, roedd cydsymud sicr y grwpiau, y cydadrodd a'r llefaru croyw yn y ddwy iaith, a hunan-hyder yr actorion wrth chwarae'n gartrefol ac yn urddasol ar lwyfan eang y Neuadd yn dangos disgyblaeth ryfeddol mewn plant mor ifanc.

DANGOSYDDION PERFFORMIAD A AWGRYMIR AR YR AMGYLCHEDD: yn ystod y cylch tair blynedd nesaf, bydd yr Uned yn cyfrannu at gysylltu â'r sector anstatudol i'w hysbysu ynglŷn â'r posibiliadau o ran gwella'r amgylchedd drwy adennill tir diffaith, yn gwneud mwy o waith adennill tir at ddiben gwella'r amgylchedd ac yn llunio adroddiad blynyddol, yn amlinellu'r nod, yr amcanion a'r hyn a gyflawnwyd o ran yr amgylchedd, ac yn cynnwys dadansoddiad o'r gwariant.

Falle nad oedd e'r perfformiad mwya gwefreiddiol erioed ond doedd dim o'i angen.

Cafwyd perfformiad clodwiw gan TNS.

'Roedd perfformiad Rhys Williams, cefnwr Caerdydd, yn galonogol dros ben - mae ei hyder e 'nôl yn sicr.

Cafwyd buddugoliaeth gyffyrddus, perfformiad proffesiynol ac un gôl wefreiddiol.

Dan arweiniad y cyfansoddwr/animateur Luke Goss, bu perfformiad yn union cyn i Gerddorfa'r BBC chwarae Turangalila anferthol Messiaen.

DANGOSYDDION PERFFORMIAD AR YR AMGYLCHEDD A AWGRYMIR: Cymryd rhan yn llawn yn Fforwm Amgylchedd Gwynedd a mabwysiadu a gweithredu côd yr Adran ar ymarfer da yn yr amgylchedd.

Roedd rheolwr Cwmbran, Tony Willcox, yn fwy na bodlon gyda'r perfformiad ac yn parhau'n ffyddiog y gallan nhw ennill yn yr ail gymal ddydd Sul nesaf.

ADOLYGU'R ADRAN: Mae'rr broses o adolygu'r Adran yn llwyfan ddefnyddiol i adolygu perfformiad ynglŷn â'r amgylchedd drwy lunio dadansoddiad o wariant er mwyn pwysleisio'r elfennau sy'n gysylltiedig â'r amgylchedd.

Gwenent hwythau hefyd, er bod ambell i wg weithiau pan gâi rhywun arall chwarae ran Mair yn nrama'r Geni, ond ciliai'r wg wrth i'r hen ŵr gydio yn eu dwylo wrth gerdded o'r perfformiad.

Gellir ymgorffori perfformiad yr Artist neu ran ohono mewn Dilyniant Agoriadol neu Ddilyniant Cloi neu i Raglen arall yn yr un gyfres fel Cip-yn-ol neu Gip-ymlaen drwy dalu tal ychwanegol (gwweler Atodlen A).

Gwaeth fyth; yn aml iawn, mae perfformiad da ar ei ben ei hun yn ddigon i lawer o bobol.

Ond ni fyddai perfformiad o'r fath safon yn bosib heb lafur ymroddedig ymlaen llaw gan yr athrawon eraill, a chymorth y mamau dawnus oedd wedi addurno'r llwyfan a'r neuadd yn gelfydd a gwneud llawer o'r gwisgoedd tlysion.

Er nad yw'n arferol cyhoeddi enw'r ail fe wnaed y noson honno gan mor arbennig oedd perfformiad Patricia.

Yr apêl honno sy'n gyfrifol fod yna lond bws o aelodau Côr Esquel ac Elda eu harweinydd yn gwibio yn awr yng ngwres yr haf 700 o gilometrau ar draws y paith ar gyfer perfformiad unigryw o'r offeren dan arweiniad Ramirez ei hun.

Perfformiad o Breuddwyd Gerontius dan arweiniad Owain Arwel Hughes.

Y mae'n argyhoeddiedig i'r criw roi well perfformiad na feddyliodd erioed yn bosibl.

Mae angen ymroddiad ynglwm â disgyblaeth ac mi allai perfformiad ddatgan mwy am obeithion hir dymor Cymru na thriphwnt yn Kiev.

Yn dilyn perfformiad ardderchog yng Nghyngerdd y Mileniwm II mae Topper yn rhyddhau ep newydd, Dolur Gwddw.

Roedd hwn yn ganlyniad gwych ar ôl perfformiad penigamp gan Gaerdydd.

A dweud y gwir yr oedd Barry'n addasu ac ail-wampio hyd at yr wythfed perfformiad!

Efallai fod perfformiad disgyblion ag AAA yn gymharol isel o'i gymharu â'r cyfartaledd cenedlaethol ond eto gall eu cyrhaeddiad fod yn uchel mewn perthynas â'u galluoedd gan adlewyrchu rhagoriaeth mewn perthynas â'r hyn y gellir yn rhesymol ei ddisgwyl ganddynt.

Yr wythnos ddiwetha', a dim ond tua phythefnos ar ôl tan y perfformiad ar nos Sadwrn gynta'r Eisteddfod, roedd hi'n amlwg fod y plant yn mwynhau ac wedi gwerthfawrogi cael cyfrannu at y syniadau.

Nid tasg hawdd yw adolygu perfformiad gan gwmni ieuenctid - pobol ifanc amatur.

"Mae o'n tynnu pobol, beth bynnag," meddwn "Gobeithio y dôn nhw i weld y perfformiad." "O, mi fydd 'na rai yn bodloni ar ei weld o'n mynd a dwad, 'run fath a'r tywysog yng Ngholeg Aberystwyth." Mae 'ma gar yn troi i mewn i lôn yr ysgol; ia, fo ydi o, mae'r gofalwr yn agor y giât." Yr oedd y cynnwrf yn dechrau cydio ynof finnau.

Rwyn cael fy nhalu i feirniadu a fe wnes i feirniadu perfformiad yr hanner cynta.

Mae Estella wedi hen brofi erbyn hyn eu bod yn rhoi perfformiad egniol a thynn wrth ganun fyw.

Perfformiad cyntaf Peter Pan.