Bur gerddorfa ar corws yn rhan o hanes wrth iddi groesawu Cynulliad Cenedlaethol Cymru gyda chyngerdd gala urddasol ym Mae Caerdydd - lle perfformiodd y casgliad mwyaf erioed o ddiddanwyr Cymreig gerbron y Frenhines, Tywysog Philip a Tony Blair.
Perfformiodd Delyth ar ei chlarinet mewn cyngerdd terfynol yng Nghastell Penrhyn, gyda chwech o gystadleuwyr eraill.
Bu'r gerddorfa a'r corws yn rhan o hanes wrth iddi groesawu Cynulliad Cenedlaethol Cymru gyda chyngerdd gala urddasol ym Mae Caerdydd - lle perfformiodd y casgliad mwyaf erioed o ddiddanwyr Cymreig gerbron y Frenhines, Tywysog Philip a Tony Blair.
Rhoddwyd pedwar cyngerdd gan y Gerddorfa ym mherfformiadau Proms y BBC yn y Royal Albert Hall, a darlledwyd un ar rwydwaith BBC Un ar draws y DG. Perfformiodd y Gerddorfa Requiem Verdi hefyd mewn cyngerdd arbennig ar gyfer yr Uwch-gynhadledd Ewropeaidd, y noson wedi iddynt berfformio mewn cyngerdd gala awyr-agored yng Nghastell Caerdydd.
Perfformiodd y Gerddorfa weithiau na chlywir hwy yn aml gan gyfansoddwyr Eidalaidd modern dan arweiniad George Benjamin a Mark Wigglesworth.
Fe fydd y Corws yn ymddangos yn rheolaidd ym Mhroms y BBC yn y Royal Albert Hall, ac eleni perfformiodd hefyd yng nghyngerdd cyntaf Proms yn y Parc y BBC yn Abertawe.