Felly sefydlwyd bodolaeth breichiau bach wedi eu gwneud o'r protein dynein yn ymestyn allan o'r is- ffibril A yn y ffibrilau perifferol.
Yn olaf, roedd yna arwyddion bod yna wain ganolog yn amgylchynu'r ffibrilau canolog a bod yna gysylltiadau rhwng y wain hon a'r ffibrilau perifferol.
Hynny yw, dau ffibril canolog a naw ffibril perifferol, i gyd wedi eu hamgau mewn gwain gyffredin yn cynrychioli pilen y gell.
Mae i'r naw ffibril perifferol ffurfiad dwbl yn cynnwys dau is-ffibril perifferol a adwaenir fel A a B.
Yn ogystal ceir adenydd rheiddiol yn cysylltu is- ffibril A y ffibrilau perifferol yn cysylltu a'i gilydd trwy gyfrwng cysylltiadau nexin.