Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pert

pert

Nid creu darlun pert yw celfyddyd ddifrifol, ond yn hytrach math o athroniaeth ymarferol, neu ymgorfforiad o arwyddion sy'n cyfleu rhyw agwedd o'r byd.

Ond doedd hi byth yn brin o fechgyn, achos, yn iaith yr ardal, roedd hi'n bishin pert.

Rwy'n credu y byddai'n well gen i fod yn lle Heledd nag yn lle'r par pert 'na heno.

Mae llawer o'n hacademwyr lleiaf wedi mynd i gredu hyn eu hunain, a dyna sy'n cyfrif fod cymaint o rigymu pert, eithaf clyfar o ran techneg, ond er hynny heb ronyn o welediad.

Nid ychwanegiadau pert yn unig yw'r lluniau hyn, ond estyniad ydynt o dasg ganolog yr awdur o ennyn chwilfrydedd y plentyn.

Dyw Arwel ddim wedi gwneud dim byd o'i le, sgoriodd e gais pert a rwyn credu bod ei amddiffyn e wedi bod cystal â Neil Jenkins.