Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

perwyl

perwyl

Sefydlwyd project eisoes i'r perwyl hwn i ganfod yr anghenion galwedigaethol mewn rhai meysydd penodol ac i gynllunio rhaglen ddatblygol yn y sector addysg bellach is.

Ac i'r perwyl hwnnw rhoddwyd iddo bwerau eang.

Rhaid i mi wneud fy ngorau glas i ddod i benderfyniad synhwyrol, ac i'r perwyl hwnnw, da o beth fyddai bwrw golwg yn ôl a cheisio dadansoddi, mor wrthrychol ag y medraf, yr holl ddylanwadau a'm harweiniodd i'r fan hon.

Perwyl drwg, mae'n siwr.

I'r perwyl yma galwyd mewn tai bwyta i astudio'r fwydlen a chael rhywbeth bach i godi'r galon ar yr un pryd.

I'r perwyl hwn datblygwyd y laser ffibr, sydd mewn gwirionedd yn fath o laser cyflwr solid ar raddfa fach.

I'r perwyl hwn, dylai'r Cynulliad sefydlu Fforymau Ieuenctid sefydlog ym mhob sir i edrych ar bob penderfyniad o bwys i'w cymunedau lleol.

I'r perwyl hwnnw, mae llawer o AALl yn dal eu gafael yn ganolog mewn darpariaeth ar gyfer disgyblion â datganiadau, gan y credant mai dyma'r ffordd orau i gwrdd ag anghenion y disgyblion.

I'r perwyl hyn penderfynwyd ffurfio gweithgor i unioni'r diffygion hyn.

Mewn gwirionedd, felly, '-oedd Churchill a Haldane wedi gosc~d Trefn Filwrol ar y wlad - heb i Fesur i'r perwyl hwnnw fynd trwy'r Senedd.

Cronfa Gredyd Mae aelodau Cyngor Eglwysi Maesteg yn brysur iawn ar hyn o bryd yn ceisio Sefydlu Cronfa Gredyd (Credit Union) yn y dref Mae angen tipyn o arian wrth gefn cyn lansio'r math yma o brosiect, ac i'r perwyl hwn mae nifer o bethau yn cael eu trefnu er mwyn codi'r arian angenrheidiol.

Roeddwn i yn Somalia am yr un rheswm ac ar yr un perwyl â phob gohebydd arall - i chwilio am straeon da mewn gwlad a oedd fel pe bai hi'n graddol gyflawni hunanladdiad.

Nid oes dyletswydd ar y Cyngor i weithredu, ond os ydynt am weithredu, rhaid i'r gwariant ddod allan o'r hyn sydd wedi ei glustnodi i'r perwyl hwn.

Mae'r Cyngor ar ddeall bod oedi i'r perwyl yma ond nid ydynt yn pwyso gan ei fod yn eu galluogi i barhau i redeg Llwyn Isaf a chadw'r gweithwyr mewn gwaith.

Ymhlyg yn y sylwadau hyn y mae condemniad pendant ar ddespotiaeth gwladwriaethau'r hen fyd ac y mae'n sicr fod llawer o eiriau Iesu i'r un perwyl heb eu rhoi ar goedd yn y dogfennau hyn.

Oes modd cychwyn ymgyrch genedlaethol o ryw fath i'r perwyl hwn?

Adroddir llawer o storiau dirmygus amdano i'r perwyl hwn.

Lle ceir diffyg darpariaeth ar gyfer themâu trawsgwricwlaidd a/ neu ddatblygiad y dimensiwn Cymreig mewn pynciau lle y gellid disgwyl iddynt fod wedi cael eu hystyried - yn arbennig y pynciau hynny lle ceir Gorchmynion ar wahân yng Nghymru - dylid gwneud datganiad i'r perwyl hwnnw.