Ond rodd darganfod aur yn Awstralia yn nechrau'r pumdegau, megis yng Nghaliffornia ychydig o flynyddoedd ynghynt, yn ddigon i sbarduno miloedd ar filoedd i fentro ar y fordaith bell er garwed y peryglon enbyd.
Ond er haeru mawredd y peryglon o'r tu allan i'r Eglwys cyfrifai'r peryglon yn fwy oddi mewn i'r Eglwys mewn syniadau anghywir--fel meudwyaeth a syniadau diwinyddol fel Apocalyptiaeth, Ariaeth a Milenariaeth.
Trwy ddilyn rhaglen o ddiet ac ymarfer fe ellir lleihau'r peryglon yn sylweddol.
Un o'r peryglon pennaf a wynebai'r morwynion alltud oedd 'dyfod i gyffyrddiad a llyfrau o duedd lygredig a drygionus, a ffug-chwedlau, o'r rhai hyn, mae llenyddiaeth y Saeson yn llawn, yn fwyaf nodedig y rhan (sic) a fwriedir i'r merched."ø Sôn am nofelwyr Saesneg y mae 'G' yn yr erthygl ddifrifddwys hon.
Peryglon cyfieithu'n uniongyrchol o'r Saesneg.
Fel pob gwyddonydd, mae cemegwyr yn gwneud popeth i osgoi peryglon diangen.
Nid gresynu at ddiflaniad ffordd o fyw y mae ychwaith; mae'n rhy gyfarwydd â'r hanes am yr amodau gwaith a'r peryglon.
Ei gariad et ei genedl a ysgogai'r Athro W J Gruffydd ei beirniadu mor llym ar brydiau, ac un o'r peryglon mwyaf i'r iaith yn ei dyb ef oedd agwedd ragrithiol rhai o'i gyd-genedl ati.
Iddynt hwy yr oedd peryglon rhyfel, - sef y perygl o ddifodiant llwyr, - yn anfeidrol fwy na'r peryglon i'r pwerau mawr.
viii) sicrhau nad yw unrhyw aelod o'r cyhoedd yn wynebu peryglon iechyd a diogelwch oherwydd gweithgareddau'r busnes.
Ym mlwyddyn cyhoeddi Enoc Huws traethodd rhyw ysgrifennwr dienw yn huawdl ar y testun 'Merched Cymru yn Lloegr a'u peryglon' ym misolyn Pan Jones Cwrs y Byd.
Roedd yn gweld y peryglon o addasu ar gyfer nifer fach o gwmniau masnachol oedd yn anaddas ar gyfer y mwyafrif o gwmniau.
cyflogedig i osgoi peryglon ac i gyfrannu mewn modd cadarnhaol at eu hiechyd a'u diogelwch eu hunain yn y gwaith, gan gynnwys darparu dillad gwarchod personol addas.
Yn ei anerchiad i'r Gymanfa yn y Rlhyl ar y testun 'Peryglon yr Eglwys yn Wyneb Her y Byd', soniodd am y peryglon o gyfeiriad meddyleg, athroniaeth, gwleidyddiaeth ac o gyfeiriad crefydd ei hun, yn arbennig "ysbrydegiaeth a Gwyddoniaeth Gristnogol".
Rydym yn gymdeithas sy'n byw ar gredyd, ac mae peryglon mawr am hynny.
Ymhlith syniadau eraill y mae gwahodd sêr y cyfryngau a chwaraeon i gwrdd â grwpiau o blant a phobl ifainc, trefnu teithiau cyfnewid gydag ieuenctid o wledydd sydd yn siarad ieithoedd lleiafrifol a llunio cyweithiau cymunedol fyddai'n denu pobl ifainc i gyfrannu tuag at ddiogelu'r amgylchedd a bod yn fwy ymwybodol o'r peryglon sydd yn ei bygwth.
Mi garwn yn awr nodi'n fras dair gwedd ar y math hwn o feddwl a cheisio dangos y peryglon sydd ynddynt i'r iaith Gymraeg.