Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

petaent

petaent

Byddai'n braf petaent yn cael eu hannog i gyd-weithio a chyd-gyfrannu, a hynny mewn ysgol hapus ag adnoddau digonol.

Gwneir i'r cymeriadau ymddwyn a siarad fel petaent yn perthyn i ddosbarth breiniol.

Ond os yw rhai pobl fel petaent yn chwilio am fwch dihangol, mae miliynau o rai eraill yn chwilio am waredwr.

Fel yn yr ardaloedd diwydiannol, roedd y perchnogion tiriog yn yr ardaloedd gwledig fel petaent yn anymwybodol o ddiffygion arswydus eu deiliaid.

Wrth ochr y Sukiennice y mae dau dþr enfawr yr Eglwys Gadeiriol (y mae gennyf gof da o fynychu cyngherddau yn yr eglwys hon gyda'r eira'n blastar y tu allan ac ymhell dros ddwy fil o bobl y tu mewn yn gwrando ar Mozart neu Verdi fel petaent mewn yn gwrando ar Mozart neu Verdi fel petaent mewn gwasanaeth crefyddol).

Ymlaen â hwy wedyn i swyddfeydd y wrdd Masnach yn Whitehall, lle rhoddodd Llywydd y Bwrdd, sef Sydney Buxton, restr o gwestiynau iddynt i'w hateb ar bapur - fel petaent yn ddisgyblion ysgol yn sefyll arholiadau!

Ar y llaw arall, gallai fod wedi codi o du'r arweinyddiaeth annibynnol sy'n ymddwyn fel petaent wedi cael eu swyno gan Brad Roynon.

Mae'r manylion fel petaent yn toddi yn y tarth, ond mae popeth yno.

Dyna waith yr haen uchaf o feirdd, y penceirddiaid, er eu bod wrth ganu englynion yn hytrach nag awdlau, ac wrth gymryd serch yn destun, fel petaent yn mabwysiadu swyddogaeth yr ail haen, sef y beirdd teulu.

O'r diwedd, yr oedd y car yn wag a'r bwthyn yn edrych fel petaent yn byw ynddo - yn wahanol iawn i'r olwg oer, rhy daclus a oedd arno pan gyraeddasant.

Ym marn Lingen, o gofio'r awyrgylch a'r amgylchiadau y treuliai merched ifanc Cymru eu mebyd ynddynt, yn lle rhyfeddu at yr hyn y dywedai pobl amdanynt, dylasent sylweddoli y buasai'n syndod petaent heb fod felly.

Mae pobl wedi tueddu i'w cadw mewn adrannau ar wahan yn eu meddyliau, fel petaent yn son am fydoedd gwahanol.

Ac eto y mae caneuon ac alawon gwerin traddodiadol gwledydd fel Sbaen, Iwerddon a Romania wrth fy modd, yn enwedig pan mae nhw'n swnio fel petaent wedi tyfu o bridd y gwledydd yna.

Mae'n ddiddorol fod nifer o'r beirdd Cymraeg a farwnadodd eu plant eu hunain yn dweud eu bod yn methu canu bellach, fel petaent yn uniaethu'r plant â'u hawen (ac eto mae'u cerddi'n gwrthddweud eu honiadau!).

Dyna'r rheswm, mae'n debyg, paham na fu awdurdodau'r Eglwys yn yr Almaen a'r Eidal fel petaent yn dymuno gwahardd neu rwystro'r cyfieithiadau hyn rhag cael eu dosbarthu ymysg y boblogaeth yn y ddwy wlad.

Ym 'Melin Adda, Amlwch' mae paent yr awyr wedi ei osod yn ffyrnig â chyllell balet nes bod y cymylau'n edrych fel petaent wedi eu cerfio, eu ffurfiau deinamig yn cau am y felin a'r beudai, yn gymheiriaid i ffurfiau'r tir.

Ond pa tip-girl, mewn difrif, a fyddai'n debygol o ddweud wrth ŵr ifanc nwydus a oedd yn sibrwd 'acenion cariad' yn ei chlust: 'A ydych yn ddirwestwr?' Oni fyddai puteiniaid cyhyrog ac ystrywgar ardal Chinatown - merched fel 'Snuffy Nell' Sullivan, 'Big Jane' Thomas a 'Saucy Stack' Edwards - wedi chwerthin yn aflywodraethus petaent wedi darllen disgrifiadau Ieuan Gwynedd o'r Gymraes nodweddiadol: 'y forwyn wridgoch sydd yn adsain y fuches hwyr a boreu â melusder ei chân .

Daw BBC Parliament â darllediadau byw i chi o Dy'r Cyffredin, darllediadau wedi'u ‘recordio fel petaent yn fyw' o Dy'r Arglwyddi a darllediadau o'r gweithrediadau yn y sefydliadau gwleidyddol newydd yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, Senedd Ewrop a'r Gyngres yn yr Unol Daleithiau.