Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

petasai

petasai

"'Fyddi di ddim yn teimlo weithia y buasai'n dda gen ti petasai Rhagluniaeth wedi gadael llonydd iti yn dy stad gyntefig - i fwynhau dy hun wrth dy gynffon ar frigau'r coed?" "Cynffon!

Dywed mai o'r Alban yr oedd ef wedi cyrraedd Rhydychen ac mai pobl yr Alban a oedd wedi gofalu amdano; oni bai amdanynt hwy, mi fuasai wedi bod fel 'brân gloff ar yr adlodd oblegid 'nid oedd y Cymry wedi arfer ymgyfarfod, ac ychydig iawn o drafferth oedd neb yn gymeryd i ddangos mai Cymro oedd' Y gwir yw, petasai OM wedi mynd o Aberystwyth yn syth i Rydychen yn hytrach na via Glasgow, mi fuasai wedi bod ymhlith cyd Gymry o'r dechrau cyntaf, ac odid na fuasai wedi clywed am Glwb Coleg Aberystwyth.

Ddywedodd yr athro yr un gair yn ôl na blaen, dim ond canlyn ar y wers fel petasai dim wedi digwydd.

Petasai wedi cael addysg Prifysgol, mi allasai yn hawdd fod wedi gwneud marc." Yn ei flynyddoedd olaf yr oedd yn bur feudwyaidd.

"Petasai'r Gymraeg wedi llwyddo i fod yn iaith stori a drama'r glowr gallasai ddal ei gafael yng nghymoedd y De, ond methu a wnaeth," meddai.

"Sgrifenna ati fel petasai'n ferch i ti% - dyna'r unig orchymyn pendant a gefais ganddo.