Y mae hi'n briodol dweud mai un o'r rhesymau pam y llwyddodd y Gymraeg i oroesi cyhyd yw am ei bod wedi llewyrchu am flynyddoedd lawer rhwng cloddiau amddiffynnol rhai peuoedd (domains) arbennig a fu'n noddfa gadarn iddi.
Y peuoedd traddodiadol i'r Gymraeg oedd yr aelwyd, y teulu ymestynnol, y gymdogaeth, y gymuned, y capel neu'r eglwys a mannau gwaith.
Yn yr un modd mewn ardaloedd di-Gymraeg, gallasai'r peuoedd hyn weithredu fel sylfaen i ail-sefydlu rhwydwaith o gymdeithasau Cymraeg allasai greu impetws ieithyddol deinamig.
Yn yr un modd ag y mae ysgolion Cymraeg penodedig a mudiadau fel yr Urdd a Merched y Wawr yn gweithredu'n gyfan gwbl ddi-amod drwy'r Gymraeg, yr her yw sefydlu peuoedd Cymraeg sydd yn gyfochrog â'r rhai hynny sydd yn bodoli yn y Saesneg ar hyn o bryd.
Y mae meysydd addysg, hamdden, adloniant a chwaraeon er enghraifft yn feysydd lle y gellid creu peuoedd o Gymreictod fyddai'n hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg fel iaith fyw a pherthnasol i'r gymuned.
Mae'n rhaid sicrhau dilyniant o ran cyfleoedd addysgol i bawb nid yn unig er mwyn cynyddu nifer y bobl sydd â'r gallu i siarad yr iaith, ond hefyd er mwyn cael effaith ar batrymau defnyddio'r iaith mewn peuoedd penodol.
Disgrifiodd Fishman y peuoedd hyn fel ...
Y mae hi'n angenrheidiol felly, i bob cynllun iaith fynd i'r afael â'r her o sefydlu peuoedd newydd i'r Gymraeg gyda'r un amod sylfaenol hwn yn aros yn gwbl ddi-wyro, sef mai Cymraeg yw unig iaith y man cyfarfod a'r gweithgareddau a drefnir.
Ond gyda'r mewnlifiad priodasau cymysg, trai ar grefydd ac ymyrraeth sefydliadol yn bygwth chwalu'r peuoedd cynhaliol hyn y mae perygl i'r Gymraeg, onid ail sefydlir y peuoedd hyn a'u hymestyn i feysydd newydd, gael ei gadael yn noeth yn nannedd y ddrycin.