Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

phapur

phapur

Os atelir trydan, ni bydd golau, na radio, na theledu na phapur newydd.

Yn y golau gwan gwelodd fod y lle-tân, a oedd yn daclus gyda phapur a choed yn barod i'w cynnau, yn llawn lludw.

Sylwch fel y mae'r holl graig noeth a welwch wedi ei llyfnhau a'i gwneud yn grwn fe pe tai wedi cael ei rwbio â phapur tywod.

Hen ferch unig wedi ymddeol ac yn cael hanner gradd mwy o sylw na phapur newydd sy'n flwydd oed.

Prynodd guazi (hadau blodyn haul), bisgedi blas chilli, siocled a phapur i Kate a finnau, a rhyw fath o hufen iâ od wedi ei wneud o ffa soya.

Bu dau gynnig brys: un yn datgan pryder y Gymdeithas ynglyn â phapur gwyrdd y Llywodraeth ar ddarlledu digidol, sy'n fygythiad gwirioneddol i S4C; a'r ail yn condemio'r BBC am eu newidiadau diweddar i Radio Cymru sydd wedi troi'r orsaf yn wasanaeth o raglenni Saesneg wedi eu cyfieithu.

Yr oedd wedi gosod popeth yn barod ar y gist geirch - pin ac inc a phapur a'r llythyr diwethaf a gawsai gan Marged.

Ni châi ymwelwyr na phapur newydd na llythyr na chyfeillachu â neb - a bwyd arbennig!

A merched o ran hynny.' 'Roedd y Parchedig Rees Harris yn dweud wrthon ni, wsnos yn ôl, ma' nid â phapur ac inc y ma'r Duw byw yn sgwennu ond ar lechau cnawdol y galon.' 'Indeed.' Un o gasbethau'r Parchedig John Jones oedd gwrando ar blwyfolyn fel Obadeia Gruffudd yn dysgu pader i Berson.

Ym mhob un o'r llefydd hynny, roedd gohebwyr Cymraeg yn gweithio, nid gydag ysgrifbin a phapur ond gyda meicroffon a chamera.

Eisteddais yn ôl yn erbyn coeden; beth oedd well i unrhyw un, - dim radio na theledu na phapur newydd i'w atgoffa am yr holl ryfela a'r byd a'i drybini.

Cyn datblygu ffotograffiaeth edrychai seryddion ar y ddelwedd a gwneud llun llaw ohono â phapur a phensel.

Does dim rhaid ichi ychwaith boeni am na phapur lapio na selotêp na stamp na dosbarthu gan y bydd popeth yn cael ei lapio ichi ai gludo i ben ei daith.

CYFLWYNWYD adroddiad y Swyddog Adeiladau ar gais y tenant am gyfraniad gan y Cyngor tuag at gost difrod a achoswyd i'r carped a phapur ar y wal o ganlyniad i ddŵr redeg i'r tŷ o dan y drws.

Ac os oes gen ti bensil a phapur, myn sgwrs hefo'r hen frawd hwnnw sy'n torri metlin wrth Bont-y-graig.' 'Hefo Robert Jones?' 'Wn i ddim be' ydi'i enw fo.

Gan gerdded drwy'r gwlybaniaeth i fyny'r rhiw mewn esgidiau rasio cyn deneued â phapur, meddyliais yn galed am y ceffyl roeddwn wedi dechrau'r ras ar ei gefn, a cheisio didol a dethol yr hyn yr o'n i am ei ddweud wrth ei hyfforddwr.

Ychydig yn ddiweddarach na phapur yr Athro W J Gruffydd fe ymddangosodd papur gan yr Athro Lewis Jones, 'The Literary Relationships of Dafydd ap Gwilym', lle pwysleisir drachefn ddylanwad y Trwbadwriaid ar Ddafydd ap Gwilym ond yma pwysleisir ef ochr yn ochr â dylanwad barddoniaeth Ladin Glasurol a barddoniaeth Ladin yr Ysgolheigion Crwydrad.