Cyrhaeddodd adref ac edrych ar ei phedair merch fach.
Roedd hi'n dal i wneud y cabaret ar y pryd, a thro phedair blynedd yn ôl, cafodd gyfle i chwarae Ceridwen y wrach yn y panto Cymraeg Twm Sion Cati.
Hyd pob cyrbyn oedd tua phedair modfedd ar hugain.
Rhaid datblygu partneriaeth rhwng ysgolion babanod a iau a'r ysgol feithrin gan bod y broses datblygol wedi hen gychwyn yn y plentyn tair a phedair oed.
Am gario'r meini, am godi'r waliau a phrynu'r tir; a'r tu allan i'r waliau, y tu allan i'r ffenestri uchel, pedair ar yr aswy a phedair, yr un ffunud ar y dde, canmolwyd gwaith llaw Thomas Jones yr Hendy a Gomer a gwelwyd bod pob dim yn dda.
Dim ond deg oed oedd Siwan pan briododd hi Llywelyn Fawr a phedair ar ddeg oedd Margaret Beaufort pan gafodd eimab, Harri Tudur, ei eni.
Ni fydd wythnos waith arferol yr Artist yn fwy na phum niwrnod mewn saith nac yn fwy na deugain awr ond na weithir llai na phedair na mwy na deg awr mewn diwrnod heb gyfrif awr o doriad pryd bwyd a hyd at awr o deithio i neu o leoliad/stiwdio.
Ac yr oeddem, gan nad beth, wedi cerdded tua phedair milltir ar ddeg, gan fod y pellter i Bencader, yn ôl yr awdurdod yn Stoke-on-Trent, yn bedair milltir ar ddeg a thri chwarter.
Erbyn wyth o'r gloch fore trannoeth safai Menem, yn ei lawn daldra o bum troedfedd a phedair modfedd, wrth fynedfa Ty'r Llywodraeth, y Casa Rosada (y Ty Pinc).
Roedd Derby'n ddyledus iawn i'w capten Dominic Cork am sgorio 83 heb fod mâs gan sicrhau buddugoliaeth i'w dîm gyda phedair pelawd yn weddill.
Tua phedair canrif yw oed yr eglwys, ond bu adeilad o fath yma ers y bumed ganrif pan gysegrwyd yr eglwys gyntaf i Ddwynwen.
'Roedd 6000 o dai dan ddwr yng Nghaerdydd a phedair troedfedd o ddwr ar Barc yr Arfau.
Wil oedd y gwas bach, tua phedair ar ddeg oed, a'i ben sgwâr, a'i wyneb fflat, gwelw; byddai'n gwlychu'r gwely, er i f'ewythr Vavasor roi cynnig ar lawer meddyginiaeth, ond doedd dim yn tycio, a Gwladys yn ddig bob bore y byddai'n gorfod llusgo'r matras gwlyb i lawr y grisiau cerrig o'r llofft stabal.
Rhaid cyffroi ynddynt, hyd yn oed y Cymry yng Ngwent a Morgannwg a gollodd eu Cymraeg ers dwy a thair a phedair cenhedlaeth, yr ymwybod o'u gwahanrwydd, a defnyddio gair J R Jones, fel Cymry.
Terfysg yn y maes glo a saith dyn a phedair merch o Fedwas yn cael eu hanfon i garchar.