Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pheidio

pheidio

Yn ôl Griffiths dylai'r Gymdeithas ostwng nifer y seddi yn y stadiwm newydd - a pheidio bod yn or-uchelgeisiol wrth adeiladu stadiwm newydd.

Pwnc llosg arall a gafodd sylw manwl ar y rhaglen hon oedd lefel syfrdanol amddifadedd mewn rhai ardaloedd gwledig a phroblem camddefnyddio alcohol, cyffuriau a sylweddau - pynciau a gysylltir yn amlach na pheidio ag ardaloedd trefol.

c) mai realiti'r sefyllfa yw fod cyrff o fewn y tair sector (cyhoeddus preifat a gwirfoddol) yn gweithredu fel taw Saesneg yw iaith swyddogol y wladwriaeth, ac yn amlach na pheidio unig iaith swyddogol y wladwriaeth hefyd.

Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Am i chwi fod yn fwy terfysglyd na'r cenhedloedd o'ch amgylch, a pheidio â dilyn fy neddfau nac ufuddhau i'm barnau, na hyd yn oed farnau'r cenhedloedd o'ch amgylch, felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Edrych, yr wyf fi fy hun yn dy erbyn.

Darllenai lawer am y darganfyddiadau a'r damcaniaethau diweddaraf, yn arbennig ynghylch y gronynnau sylfaenol yng nghnewyllyn yr atom, am bethau fel cwarcod, newtrinod, positronau a'r holl lu rhyfeddol sydd, rai ohonynt, yn medru bod a pheidio a bod ac ail-fod i gyd ar yr un gwynt, fel petai.

Gwelir hen adeiliadau, simneiau, a thomennydd gwastraff yn gysylltiedig â'r gweithfeydd glo a haearn a'r chwareli ym mhobman ar hyd a lled y wlad; ond, yn amlach na pheidio, mae'r hen longau hwyliau wedi pydru ers blynyddoedd yn y dŵ'r hallt, neu wedi cael eu dinistrio neu eu symud er mwyn gwneud lle mewn porthladdoedd.

Ac ni fedrwn sefyll ym mhulpud Bwlchderwin heddiw, a pheidio â meddwl, pe gwelwn wraig hyn na'r cyffredin yn y gynulleidfa, "Oedd 'nacw'n un ohonyn NHW tybed ?" Wrth edrych yn ôl trwy niwl y blynyddoedd, nid bara a gwin Y Cymun hwnnw, yn anffodus, sydd wedi aros, ond trwyn arswydus y Parch.

Yn amlach na pheidio y ffaith i ddarllenwr glosio at gymeriad sydd yn eich siarsio i ddal ati i ddarllen.

Wedi'r cyfan mae'n well mynd i ffair wagedd na pheidio cael ffair o gwbl.

I ddisgrifio dyn, yn llawer mwy aml na pheidio, nid ansoddair a geir ond trosiad neu gyffelybiaeth.

Yn amlach na pheidio, mae cyflwr y gragen yn arwydd o'r gofal neu'r diffyg gofal a gafodd y garafan gan ei chyn berchnogion.

Cymerir hynny'n esgus dros geidwadaeth ronc yn amlach na pheidio, ond mae'n amhosib peidio a bod yn ymwybodol o'r blaen ellyn y mae'n rhaid ei droedio.

Yn rhyfedd iawn roedd bron pob gêm rhwng Cymru a Gogledd Iwerddon yn gêm ddiflas cyn amled â pheidio yn cael ei chwarae ar nos Wener o flaen torf bitw.

Mi ddywedwn i mai go brin y mae unrhyw reswm i beidio â bwyta pryd fel hyn o dro i dro ond peidio â'i wneud yn arferiad dyddiol a pheidio â bwyta gormod ar y tro.

Cyfarfyddai'r grwpiau, yn amlach na pheidio, bob tair neu bedair wythnos, er y byddai ambell un yn cwrdd yn wythnosol pan fyddai galw.

Yn amlach na pheidio, âi pob gofyniad o eiddo'r gweithwyr i rownd derfynol y gyfundrefn, lle 'roedd y cymrodeddwyr yn grintachlyd iawn eu dyfarniad oherwydd y dirwasgiad masnachol.

A biti garw hefyd mai'r bobol sydd heb rithyn o ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth, na gwybodaeth chwaith cyn amled â pheidio, sy'n penderfynu pwy sy'n cael mwyafrif yn y Senedd.

Er bod y rhai fu'n gyfrifol am hyn wedi mynd bellach, y mae'r ethos yn parhau.' ' Gwêl Gwyn Chambers fai ar Gyngor y Coleg i raddau helaeth hefyd: "Dwi'n teimlo y dylai rhai o'r aelodau lleyg fod wedi sefyll i fyny yn erbyn yr academyddion mewn blynyddoedd a fu a pheidio â derbyn y cwbwl a ddywedwyd wrthyn nhw'n ddigwestiwn.

Yn amlach na pheidio rhoddai Powell fwy o groeso i ateb anghywir a oedd yn ffrwyth meddwl neu ddychymyg nag i ateb cywir confensiynol a di-fflach.

Dôi'r symbyliad, yn amlach na pheidio, o du unigolyn, neu grwp bychan o bobl a adwaenai ei gilydd yn dda.

Anawsterau felly yn amlach na pheidio sy'n wynebu'r myrdd o newyddiadurwyr fydd yn heidio'n rheolaidd i wahanol uwch- gynadleddau.

Gall myfyrwyr fenthyca rhai o'r llyfrau hyn am gyfnodau byr ond gofynnir ichwi ystyried anghenion myfyrwyr eraill a pheidio a dal gafael yn hunanol ar lyfrau.

Ers rhai misoedd bellach rydym wedi bod yn mynychu cyfarfodydd yn rheolaidd bob nos Lun yn syth ar ôl ysgol, (ar wahân i ddwy wythnos pan anghofiodd Mr Hughes amdanom ni, a pheidio â dod.

Cafodd ei demtio i orwedd yn ôl yn llonydd, a pheidio â gwneud dim ond gadael i'w gorff suddo i waelod y môr.

Ar y cyfan, maent yn parhau'n Saeson, ond yn amlach na pheidio y mae eu plant hwy yn datblygu'n ddosbarth arall o Gymry, yn siaradwyr Cymraeg cenhedlaeth gyntaf.

Penderfynodd y pedwar gychwyn yn gynnar a pheidio â dychwelyd y ffordd y daethon nhw.

Mae llawer o'r cynyrchiadau ar y sianel ddigidol yn fyw felly mae angen i'r cyflwynwyr feddu ar feddwl chwim a pheidio â cholli eu pennau: her y mae'r criw talentog yn fwy na pharod i'w chwrdd.

Waeth i mi gyfaddef na pheidio, tipyn o fabi oeddwn i, o ystyried f'oed.

Ac y mae meddu ar lyfrau Morgan Llwyd yn well na pheidio â meddu arnynt.

mae rhyddid i bobl addoli elvis presley os ydyn nhw'n moyn, neu ryddid iddyn nhw addoli eliffantod pinc sy'n hedfan o gwmpas yr wyddfa os ydyn nhw'n moyn, dim ond iddyn nhw beidio â gwthio'r peth arna i, a pheidio â gweiddi cabledd os bydda i'n digwydd chwerthin am ben eu ffolineb.

Eithr fe lanwai'r bwced â llaeth hyd at yr ymylon - pe buasech mor ddifeddwl â pheidio â'i wacau bob hyn a hyn.

'Mae'n bryd i ti ddysgu darllen y Beibl drosot dy hun,' meddai, 'a pheidio a llenwi dy ben a rhyw hen storiau gwneud.'

Rhai oedd y rhain, waeth ichwi ddweud na pheidio, a oedd yn barod i wneud unrhyw ddrygioni!