Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

phenderfynodd

phenderfynodd

Roedd o wedi sylwi nad oedd ei ffrind wrth y bwrdd brecwast, a phenderfynodd fynd i dynnu ei goes am y peth.

Dywed Undeb Rygbi Cymru nad oes dim a all ef ei wneud yn y mater - a dydi hynnyn synnu neb - a phenderfynodd clwb Chris Stephens, Penybont, mai dim ond dirwy yr oedd yn ei haeddu - nid gwaharddiad.

Erbyn Tachwedd 'roedd y Bwrdd Glo yn honni fod 55 o'r 174 o byllau yn gweithio, a phenderfynodd glowyr Gogledd Cymru ddod â'r streic i ben.

Rhaid i chi dwad yma pob dydd am wsnoth.' A phenderfynodd fwrw iddi yn y fan a'r lle.

'Nabododd William Huws berchennog y llais nesa' a phenderfynodd roi gordd arno.

Rafflwyd y trefniannau sidan ar ddiwedd y cyfarfod a phenderfynodd yr enillydd, sef Mrs Jean Clarke, roi ei gwobr i gynaelod sydd ar hyn o bryd yn gaeth i'w thy.

Cafodd ddalen o Destament Groeg ar ffordd Pen y Foel, a phenderfynodd ddysgu yr iaith honno, a gwnaeth hynny i raddau lled berffaith.

Cawsant ddirwy drom a phenderfynodd Rhys na fyddai yn ei thalu.

Yr oedd un neu ddwy o eglwysi Cymraeg wedi dangos peth diddordeb ynddo, ond ni ddaeth galwad, a phenderfynodd Elfed felly dderbyn cynnig yr eglwys Saesneg.

yn ffodus roedd bar yn y stryd, a phenderfynodd hi gael cwpanaid o goffi a theisen.

Closiodd Mrs Mac a Dyff eto a phenderfynodd y ddau adael y cwm.

Roedd rhyw hynodrwydd yn perthyn iddynt a phenderfynodd eu hail-lunio a'u dwyn o dan awdurdod yr Eglwys Ladinaidd.

Gwyddai fod Llefelys yn darllen llawer a phenderfynodd sgrifennu ato i ddweud beth oedd yn bod ac i weld a oedd ganddo unrhyw ateb i'w gynnig.

Dechreuodd balchder gorddi Pamela a phenderfynodd na châi neb dorri cwrls hardd ei genethod a'u gwneud i edrych fel plant oedd yn cardota ar y plwyf.

Dechreuodd fwrw, a phenderfynodd Hector nad oedd unrhyw wrhydri mewn gwlychu.

Gafaelodd mab hynaf Thomas a Maria yn y gwaith a phenderfynodd adeiladu tŵr cerrig sylweddol yng nghanol Parc Glynllifon fel claddfa i'r teulu.

Dim ond ychydig dros flwyddyn ar ôl priodi, gwahanodd Derek a Karen a phenderfynodd Karen ei bod am gael bywyd newydd.

Yn ystod y ddwy flynedd nesaf dwysau a wnaeth gwrthwynebiad y Frenhines tuag at y Diwygwyr a phenderfynodd Davies ddianc am loches fel alltud ar gyfandir Ewrop.

Mae yna si nad oedd rhai o aelodaur grwp yn cyd-dynnu a phenderfynodd Curig adael.

Ar ganiad bron, y prynhawn hwnnw, fe ddaeth llwyth o gerrig o'r twll i ____, a phenderfynodd yntau ofyn iddo'r peth cyntaf bore trannoeth.

tra eisteddai 'n amyneddgar yno y sylweddolodd mor uchel a ffyrnig oedd yr afon, a phenderfynodd fynd i ben y bont i edrych arni.