Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

philistiaid

philistiaid

Yn olaf mae'r frenhines ei hun yn berson cwbl anghymwys i'r gwaith o agor estyniad y Llyfrgell gan ei bod yn greadures cwbl ddiddiwylliant -- un o philistiaid amlycaf Prydain.

Ac yr oedd dyn yn ffyrnigo a ffieiddio am fod y Philistiaid dienwaededig yn mathru'r lle sanctaidd, yn gwaredu am fod yr inffidel ddiddymwr a'i griw mor ddihidio ag a fu Antiochus Epiphanes a'i lu 'rioed, yn halogi'r cysegr a'i droi'n ffieidd-dra an~hyfaneddol yno o flaen ein llygaid:

Gresynai Cynddylan fod cymaint o ôl syniadaeth William Owen Pughe - ar y cystadleuwyr a barnai Hawen i'r beirdd eu harwain 'i diroedd gwynfaol - rhamant disylwedd...' Diystyrwyd gwersi ieithyddiaeth gymharol yn llwyr: 'Ofnwn, pe cyfieithid rhai darnau o rai o'r pryddestau hyn, y câi y philistiaid Seisnig wledd na chawsant ei bath er ys llawer dydd.