Hefyd bod Ruth, geneth arall o blith 'plant' Pengwern, a Nolini ac Enomeris, wedi gweld Philti yn trin cornwyd oedd gan Pengwern ar ei glun, ac wrth gwrs fod ei ddillad wedi eu datod iddi fedru gwneud hyn.
Aeth Badshah at J. W. Roberts i Sylhet i ddweud fod Nolini, un o'r genethod a fagwyd gan Pengwern, yn honni ei bod hi, wrth basio'r ystafell ymolchi ym myngalo Pengwern tua 9 o'r gloch y nos, wedi gweld y cenhadwr hwnnw'n cusanu Philti.
Philti oedd wedi cynnig gwneud y gymwynas hon iddo am ei bod yn edrych arno fel 'tad' meddai hi.
Ymgymerir â'r draul yr un modd a phe deuai drosodd i'r wlad hon.' Yr oedd Philti i symud ar unwaith i ryw orsaf arall ar y Gwastadedd neu'r Bryniau.
'Roedd Philti, beth bynnag am Enomeris, wedi cael ei hyfforddi'n fydwraig.
Gofynnodd Crossley, Enomeris a Ruth iddo beidio â gwneud hyn, ond daliodd i fynd â the i Philti.
Tystiai Pengwern fod ei chwaer yng nghyfraith, Miss Brownlow, hefyd yn yr ystafell wely y noson yr oedd Philti yn gweini arno am ei fod yn wael.
Cyhuddiad arall oedd fod Pengwern yn wael ar un adeg a bod dwy o'r genethod wedi mynd â chwpanaid o de iddo yn ystod y nos a chael bod Philti'n gorwedd ar yr un gwely â'r cenhadwr o dan yr un mosquito net.
A chredwn na ddylasai ar unrhyw gyfrif wneuthur hynny â Philti ac Enomeris oedd yn ferched oddeutu dwy ar bymtheg oed pan ddaeth Miss Bessie Jones â hwy o Cherra i Maulvi Bazaar .
Enomeris a Philti oedd eu henwau.