Oherwydd bod nifer o bobl ifanc asgell chwith wedi ymuno â Phlaid Cymru wedi Penyberth penderfynodd Saunders Lewis ymddiswyddo o'r llywyddiaeth am na fyddai Cymru yn derbyn arweinydd Pabyddol.
Y gwahaniaeth pwysicaf rhwng y Gymdeithas a phlaid wleidyddol oedd y dulliau a ddefnyddid i sicrhau newid, sef lobïo a thorcyfraith yn hytrach nag ymladd etholiadau.
Ac yntau'n fyfyriwr yng Ngholeg y Brifysgol ym Mangor ar ddechrau'r pedwardegau roedd yn gyfarwydd â dadleuon gwleidyddol y Blaid Gomiwnyddol a Phlaid Cymru.
Fel yr oedd teimladau'n poethi, a pherygl i'r Rhyddfrydwyr dynnu'n ôl, daeth yr Henadur William George i'r adwy ac apelio at ei blaid ail ystyried a rhoi'r Ymgyrch, fel yr awgrymasai Plaid Cymru, yn llaw mudiad unol nad oedd yn rhwym wrth na phlaid nac enwad, cyngor na mudiad o unrhyw fath.
Is-etholiad Caerffili a Phlaid Cymru yn dod o fewn 1,874 i bleidlais Llafur.
Is-etholiad Gorllewin Y Rhondda a Phlaid Cymru yn dod o fewn 2,306 i'r Blaid Lafur.
Ofnai rhai mai cynllwyn ydoedd cefnogaeth y Blaid Rhyddfrydol er ceisio marchogaeth ar gefn y farn gyhoeddus a oedd yn prysur gryfhau o blaid Senedd; "Cast etholiadaol ydyw%, meddai Saunders Lewis gan gyfeirio'n amlwg at yr etholiad cyffredinol a oedd ar ddod, a mynnai rhywun fod yn Rhyddfrydwyr yn bwriadu defnyddio Cymru er mwyn eu plaid a Phlaid Cymru am ddefnyddio'r Blaid er mwyn Cymru.