Yn aml iawn fe ddeuai llais Rwsiaidd ar y lein yn rhybuddio'r un oedd yn galw fod honno wedi mynd am ei swper ac felly roedd rhaid aros tan iddi ddychwelyd cyn ein cysylltu ni â Phnom Penh.
Felly roedd cerdded i lawr strydoedd y brifddinas Phnom Penh, fel camu nôl i'r pumdegau pan oedd y Ffrancod yn tra-arglwyddiaethu yn yr ardal.
Un o'r profiadau mwya' ysgytwol i mi oedd ymweliad â Cheung Euk, sef y `killing fields' enwocaf ar gyrion Phnom Penh.
Gwelem Mekong o'r awyren fel llinell arian yn llifo drwy'r wlad; mewn rhai mannau mae'n dair milltir o led ac yn ddigon dwfn i longau o'r môr mawr i hwylio i fyny cyn belled â Phnom-Pen .