Ymhellach, credwn fod gan Gymru bersbectif gwerthfawr ar faterion o gyfiawnder cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd rhyngwladol a dylai'r Cynulliad ymgyrchu trwy sefydliadau fel Canolfan Cymru ar Faterion Rhyngwladol er mwyn hybu datblygiad cymdeithas byd-eang fwy teg lle rhennir adnoddau'n deg ac nid ecsploitir yr amgylchedd na phobloedd na gwledydd 'tlawd' y byd er cynnal cyfoeth gwledydd 'cyfoethog' y byd.