Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

phridd

phridd

Mae Tre'r Ceiri, sydd ar safle o bum erw wedi'i hamgylchynu â muriau cedyrn o gerrig a phridd ar ffurf caer neu amddiffynfa.

Mae ecoleg yn golygu mwy na rhyngberthynas anifeiliaid a phlanhigion wedi ei blethu a chymhlethdodau tywydd ac ansawdd craig a phridd...

Daeth cawod o law taranau yn y prynhawn i ddiferu'n oer i lawr gwar a thagu gwteri'r buarth â swnd a phridd.

Lle cynt y darluniwyd Crist 'yn un â phridd y ddaear' a'i adael ar hynny, bellach daethpwyd i'w gynysgaeddu ag enaid ac i synio amdano fel 'Iesu rhydd', fel un (a defnyddio iaith Peate am y tro heb egluro dim arni) wedi canfod ei enaid a thrwy hynny sicrhau anfarwoldeb iddo'i hun.

Gwelwch dystiolaeth o nerth y lefiathan wrth gerdded i fyny at geg y cwm, yn bonciau o gerrig, powlenni mawnoglyd rhyngddynt a marian terfynnol o gerrig dwad, graean a phridd o'r tu cefn i'r hwn y crewyd y llyn bas.

Yn y tyllau hyn bydd nyth diddos o laswellt yn gymysg â blew'r fam, a bydd hithau yn mynd yno bob nos i roi llaeth y frest i'r cywion ac wrth ymadael yn gofalu cau ceg y twll gyda phridd fel nad yw'n hawdd canfod y fynedfa.

Mae'r byd mor fach bellach, fel bod y lleuad yn frith o faneri, a phridd y lleuad yn tyfu ffrwythau yma ar y ddaear.

Mae'r gwastraff yn cael ei bentyrru'n uchel, a phridd yn cael ei daenu drosto o bryd i'w gilydd.

Mae'r mwyafrif o dasgau'r ffermwr yng Nghymru'n ddibynnol ar y tywydd, ac ar y modd mae'r tywydd yn adweithio gyda thirwedd a phridd.

Y mae'r mathau o graig a phridd hefyd yn bwysig.

"Damia!" sisialodd, pan gofiodd yn sydyn na wnâi hynny ddim ond datguddio rhychau ac esgyrn a smotiau brown galwad ei phridd, felly caeodd y ddau fotwm yn ffwndrus yn eu hôl.

Ei eiddo Ef yw'r blaned hon, ei phridd, ei hafonydd, ei choed, ei phlanhigion, ei bwystfilod a'i hymlusgiaid.

Llanwyd ei ffroenau ag oglau gwlydd a phridd, a gwenodd wrth feddwl iddi ennill y frwydr i beidio â'u golchi.