Er nad yw'r adran yn fawr o'i chymharu a rhai adrannau o brifysgolion eraill y wlad, mae ei chyfraniad i wyddorau'r môr yn sylweddol ac mae llawer o'r gwaith sy'n cael ei wneud ar y cyd gyda phrifysgolion Ewrop, yr UDA, Awstralia a gwledydd eraill y byd.
Nid rhyfedd felly y gwelir mwy o ysgolion a phrifysgolion wedi'u hagor yn Ewrop y cyfnod.
Er mwyn cydymffurfio â'r patrwm hwn, anfonwyd meibion Gwedir, oherwydd diffyg canolfan addysg uwch yng Nghymru, i ysgolion a phrifysgolion yn Lloegr, lle y deuent i gysylltiad ag etifeddion y prif fonedd, a lle y mabwysiadent y cwrteisi a'r moesau hynny a dderbynnid yn rhan anhepgorol o'u dull o fyw wedi iddynt ymadael oddi yno.
* Cyngor Cyllido Addysg Uwch sy'n darparu cyrsiau mewn athrofeydd, colegau (ac ysgolion) hyfforddi athrawon a phrifysgolion (gan gynnwys adrannau efrydiau allanol);
'Rhoes ei geiniog brin at godi'r coleg' er mwyn i'w fab ei hunan beidio â medru nac iaith ei dad nac ystorïau'i dadau na gwybod dim am 'adlais cerddi ei ieuenctid pell'. Mynych y dywedwyd mai'r gwahaniaeth rhwng colegau Prifysgol Cymru a phrifysgolion dinasoedd masnachol a diwydiannol Lloegr yw mai meistri masnach a diwydiant a greodd y sefydliadau Seisnig ond ceiniogau'r werin a gododd golegau Cymru.