Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

phriod

phriod

Yr oedd Mrs Eluned Jones yn ôl yn y clwb ac yr oedd pawb yn falch o glywed bod ei phriod Mr Trefor Jones yn gwella.

Ar ôl rhybudd amserol a difloesgni Mr Saunders Lewis ynglyn â thynged yr iaith, fe aeth Cymdeithas yr Iaith ati i fynnu i'r Gymraeg ei phriod hawliau yn ei gwlad ei hun, ac ni wnâi ond y crintach warafun i'r mudiad hwnnw y clod am ennill yn ôl i'r iaith beth o'r bri y mae'n ei fwynhau heddiw.

Ar yr un pryd rydym yn gweithio gyda chydweithwyr yn Llundain i sicrhau y caiff Cymru ei phriod le ymhob cynnyrch rhwydwaith.

Ni chawn fawr o son amdano'n anwesu Sarah, dim ond cyfeirio'n ddidaro ati'n 'ymnythu yng nghorff ei phriod yn y gwely mawr'.

Fel yr aeddfedai yr unigolyn y tu mewn i'r genedl, felly hefyd yr oedd y genedl yn cael ei phriod le yn y Ddynoliaeth.

Heb ymgynghori â chig a gwaed penderfynodd Catherine Edwards yr âi hi ar ei hunion cyn belled â'r porthladd i gwrdd â'i phriod fel y byddai'n glanio yno.

Fodd bynnag, gellir dadlau yn erbyn hyn gyflwr anghrediniol ac ystyfnig y meddwl anianol, a phechod y cyfryw yn ymwadu â'i briod/phriod.

Geill gŵr digon anllenyddol ysgrifennu'r iaith yn lân ei phriod-ddull, ac yn gain ar dro.

Yng nghonfensiwn y beridd molid y wraig yn ogystal â'i phriod a phriodolid iddi hi nodweddion teilwng y fonesig urddasol a haelfrydig.

Yn ddiweddar, cyflwynodd Thalia a'i phriod Ian Campbell eu holl bapurau gwleidyddol i'w cadw'n ddiogel yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Dymunwyd yn dda i Mrs Jones gan obeithio y caiff flynyddoedd lawer iawn o ymddeoliad hapus gyda Mr W H Jones ei phriod a ymddeolodd tua blwyddyn yn ol.