Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

phryd

phryd

Bu amser pan wyddent beth oedd y naill a'r llall yn ei feddwl a'i deimlo, a phryd y gallai siarad yn agored ag ef.

Roedd o'n rhyfeddol o fwyn, ond yn feddw fawr - a phryd hynny y byddai berycla.

Pan oedd Rhian yn ddeuddeg gadawodd y teulu'r dafarn a phryd hynny y dechreuodd pethau fynd o chwith rhwng Reg a Megan.

Gyda'i llygaid mawr llwydlas a'i chroen golau clir, mynnai ei chymdoges Mestres Sienet Watcyn, Ysgubor Fawr, a'i hadnabu ers ei genedigaeth, bod merch yr hen Sgweiar yn ferch ddeniadol tu hwnt, yn hynod o debyg i'w thad o ran cymeriad yn ogystal a phryd a gwedd.

Wedi'r cyfan, onid oedd wedi llwyddo i ddeall un o swyddogion yr orsaf yn egluro wrth barti ansicr ar eu gwyliau ble a phryd yr oedd y tren yn ymadael i Ddofer?

Roedd yna ddryswch ynglyn â phryd oedd y tymor yn gorffen.

Oni fyddai yno ddŵr glân i rwystro'r afiechydon rhag eu dwyn i ffwrdd o'r fuchedd hon i'r nefol gôr yn gynt na phryd?

Yn ogystal â ffacsimile digidol, bydd y CD-ROM yn cynnwys adysgrifau a thrafodaeth lawn o'r llawysgrif, gan gynnwys yr holl dystiolaeth newydd am sut a phryd y rhoddwyd y llawysgrif at ei gilydd.

Mae Adar y Tô hefyd yn mwynhau diod o neithdar a phryd o baill.

Er ei fod yn hoff o fwyd (yn lwth yn ystod cyfnod diofal ei ieuenctid), aeth o un pegwn i'r llall: cadwai at dri phryd y dydd a chyfri'r calori%au yn boenus.

Bues i'n siarad â Moriaty ddydd Sadwrn a phryd hynny doedd e ddim yn gwbod beth oedd yn digwydd.