Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

phrynu

phrynu

Cyn symud ymlaen i fanylu ar yr ystyriaethau wrth brynu carafan, efallai y dylasem oedi am ennyd i bwyso a mesur y manteision a'r anfanteision o brynu'n ail law a meddwl o ddifrif hefyd am bry- nu'n breifat o'i gymharu a phrynu gan ganolfan werthu.

Gelwais gyda'i ferch a gadwai lythyrdy Pensarn a chefais gyfle i fwrw golwg dros ei lyfrgell a phrynu'r hyn a ddymunwn.

Rhoddwyd Dei i eistedd ar gadair fregus yng nghanol y garej, a cherddodd Bilo o'i gwmpas gan edrych arno fel pe bai'n edrych ar fuwch cyn ei phrynu.

O ganlyniad nid yw pobl leol, yn enwedig prynwyr tro cyntaf, yn medru cystadlu o fewn y farchnad chwyddiedig a phrynu ty ar forgais sy'n gyfesur a'u hincwm.

Yn wir, y record gyntaf imi ei phrynu oedd Megamix gan Technotronic (dechrau da te ba'?!), ac fe fyddai'r casgliad yn cynyddu'n wythnosol, gan ganolbwyntio ar gerddoriaeth y clybiau gan amlaf.

Bu'n pendroni'n hir yn y siop ynglŷn â phrun i'w phrynu, y Viyella yn te'r un o'r Almaen, nad oedd cystal o ran ei brethyn ond a oedd yn fwy trawiadol ei thoriad.

Yn y dre, mi aethon nhw i siop fawr a phrynu pump cadair newydd a phump gwely newydd.

at gostau teithio ar rai ymweliadau y tu allan i'r Coleg a phrynu eich disg cyfrifiadur eich hun.

Dod o hyd i siop gwerthu CD's a phrynu tri.

Roedd o'n falch iddo'i phrynu, er iddo dalu drwy'i drwyn amdani.

Aeth i mewn i siop a phrynu'r ddrutaf a'r fwyaf gloyw a oedd yno.

Cafodd y gymuned gyfan sioc pan aeth Stan i fusnes gyda Reg Harries a phrynu Pwll Bach.

Mae angen gwahanol fathau o wybodaeth arnoch i'ch helpu i benderfynu pa un o'r amrywiaeth o gadeiriau olwyn sydd ar gael ar hyn o bryd i'w phrynu.

Llongyfarchiadau i Caban ar eu halbwm gynta ac os oes gennych chi bunten neu ddwy cofiwch ei phrynu.

"Rydw' i'n ddigon prysur rŵan," meddwn i, ar frys, ac yn anghwrtais ddigon er nad oedd yna ddim adwaith oddi wrth y talp o geuled o'm blaen i, "Dodrefnu'r fflat a phrynu celfi newydd, ac atgyweirio a diweddaru a newid tipyn ar y lle hefyd." "Yn wir," meddwn i, a dim ond prin gymryd anadl rhwng dwy frawddeg, "Mae'r pentiwr acw heddiw yn gorfffen addurno'r stafell fyw i mi." Ond nid oedd dianc i fod.

Meddai gŵr sy'n teithio o Ddinbych i Rhuthun yn unswydd i brynu'i faco: "Mae'n rhatach i mi ddod yma i brynu baco rhydd a gwario punt ar betrol na phrynu sigarets wedi'u pacio." Mae'r dewis yn rhyfeddol a gellir eu cymysgu fel y mynnir.

Am gario'r meini, am godi'r waliau a phrynu'r tir; a'r tu allan i'r waliau, y tu allan i'r ffenestri uchel, pedair ar yr aswy a phedair, yr un ffunud ar y dde, canmolwyd gwaith llaw Thomas Jones yr Hendy a Gomer a gwelwyd bod pob dim yn dda.

Nid ei phrynu er mwyn ei defnyddio fel garej ond ei chwalu gyda'r bwriad o gael gwell mynedfa i'r cae at ddefnydd y bobol fyddai am fynd i'r ganolfan siopa.

Y petha' sy'n bwysig y dyddia' yma yw gwario cymaint ag a allwn ni ar ddathlu a phrynu anrhegion drud...

Galw heibio pabell yr Undeb am baned a phrynu copi o'r Cyfansoddiadau buddugol.