Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

phum

phum

Dewisodd yr awdur ymdrin â phum thema sy'n ganolog i'r cyfnod hwn - Cymru a Chymreictod, Bywyd Bob Dydd, Crefydd ac Addysg, Deffro Diwydiannol a Brwydr y Bobl.

Tan tua phum mlynedd yn ôl roedd teithio rhad o fewn Ewrop yn golygu ‘pecynnau gwyliau' gyda phawb yn cael eu gwagu i gorlan gyfyng a'u trin fel defaid.

I gymharu â siroedd Penfro ac Aberteifi, ym Morgannwg roedd llawer o'r plant yn llai na phum mlwydd oed, a'r plant dros ddeg yn llawer prinnach, am fod cyfle ganddynt i fynd i weithio yn y gweithfeydd, a dyna a wnaeth i Lingen gefnogi nid yn unig ddeddfwriaeth yn erbyn gadael i blant bach weithio, ond hefyd i roi pwys ar ganolbwyntio ymdrechion i gael ysgolion babanod yn yr ardaloedd diwydiannol.

Yn ôl y drefn arferol, roedd pawb oedd wedi mynd ar y trip wedi cyfrannu ychydig o newid mân 'fel cydnabyddiaeth i'r dreifar', ac rwan fod pawb arall wedi disgyn o'r bws oddi allan i'r post, fe estynnodd Elsie Williams y cwbl i Elfed: swp o ddarnau dwy geiniog a phum ceiniog ac ambell bisyn deg wedi eu casglu mewn pecyn marjarîn oedd yn dal i gynnwys ychydig friwsion ar ôl brechdanau rhywun.

Blwyddyn a phum mis oedd rhwng Doris a mi, a chofiaf lawer o gydchwarae rhyngom.

Rai misoedd yn ôl, soniais am y nifer mawr (tua phum mil neu well) o droseddau gwahanol y gall y modurwr druan eu cyflawni â'i gar þ sawl un heb iddo ef ei hun fod yn ymwybodol ohono ar y pryd.

Roeddwn wedi edrych ymlaenyn arw at fy ngwyliau sgio cyntaf a dyma fi ar gychwyn wythnos o brofiadau newydd ar ol siwrnai faith a phum awr o gwsg.

Ni fydd wythnos waith arferol yr Artist yn fwy na phum niwrnod mewn saith nac yn fwy na deugain awr ond na weithir llai na phedair na mwy na deg awr mewn diwrnod heb gyfrif awr o doriad pryd bwyd a hyd at awr o deithio i neu o leoliad/stiwdio.

Am iddo grwydro cymaint i bregethu, a phregethu weithiau bedair-a phum gwaith y dydd, y rhwygwyd y wedd ar Harris onid oedd yn welw a rhychlyd ei wyneb yn ddeg ar hugain oed.

Does dim siopau yma i'w cymharu â gwleddoedd Dubai ond mae'r ardal yn dod yn fwy a mwy poblogaidd gyda phum gwesty pedair a phump seren ar y gweill dros y flwyddyn nesa.

Cychwynnodd gyda phum pelawd gan ildio dim ond pum rhediad.

Yr oedd y bont fawr yn un filltir, un fil, saith gant a phum llath o hyd.

Tref farchnad yng Ngogledd Cymru ydy Rhuthun gyda phoblogaeth o tua phum mil.

Tua phum wythnos yn ôl daethpwyd o hyd i gorff bachgen oedd yn ei ugeiniau cynnar.

Cario 'mlaen am tua phum munud, i roi braw go-iawn iddi.

Hawliant droi diwrnod o'i phum niwrnod hi yn ddydd Saesneg cyn cyfrannu at ei chynnal hi'n anrhydeddus.

Mae Cymru saith pwynt y tu ôl i'r naill a phum pwynt y tu ôl i'r llall.

Yr oedd angladd i mi yn yr oedran hwnnw, tua phum mlwydd oed, yn beth i'w ofni.