Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

piano

piano

Efo oedd organydd eglwys y plwyf yno, ac 'roeddwn yn ddigon ffodus i gael ei adnabod a'i glywed wrthi'n canu'r piano yng nghartrefi rhai o drigolion Y Waun yn ogystal ag yn ei gartref ef ei hun.

'Roedd gan fy nhad lais da, ac yn ôl ffasiwn yr amserau mi fyddai'n canu weithiau a'm mam yn cyfeilio iddo wrth y piano.

Pleser digymysg oedd eistedd ar y staer yn y tū lle 'roeddwn yn aros i wrando ar John Nicholas yn canu'r piano ar ryw noswaith dawel o haf yn y dyddiau cyn y rhyfel diwethaf.

Canu'r piano am byth a gadael i'r gath olchi'r llestri.

"Fydd dim rhaid iti wneud dim byd ond chwarae'r piano imi!" meddai Towyn wrthi.

Pan geir piano, cyfeilydd penigamp a Betty Williams-Jones i'n diddanu, anodd iawn yw troi am adref.

Fel Dysgu Nofio mae diweddglo'r gân yma yn drawiadol hefyd, wrth i'r piano a'r bît ddiflannu yn raddol, gan adael llais i ganu'r gytgan heb unrhyw offerynnau yn y cefndir.

Pan oedd yn ddeg oed ac yntau'n gwneud yn well ac yn well gyda'i wersi piano, dywedodd ei fam, a oedd yn athrawes gynradd, wrtho ei bod yn bryd iddo roi'r gore i gerddoriaeth a dechrau canolbwyntio "ar bethau pwysicach".

Wrth ymestyn ac anwesu'r gwlân a'i fwydo i mewn i'r dro%ell, symudai ei dwylo mor ystwyth a meistrolgar â dwylo perfformiwr yn canu'r piano.

mae'r trac yn agor a mae'r piano yn debyg i un mewn salwn ffilm gowbois.

Bu cryn bwyso arnaf i ddysgu canu'r piano pan oeddwn yn hogyn, ond yn fy ffolineb mi wrthwynebais, er mawr siom imi'n ddiweddarach.

Wrth chwilio am eiriau fel 'piano' neu 'drama' sydd yr un peth yn Gymraeg, Saesneg ac ieithoedd eraill, bydd y Chwilotydd yn dod o hyd i'r safleoedd Cymraeg sy'n cynnwys y gair, yn hytrach na rhestri'r holl safleoedd ym mhob iaith.

Byddwn yn ymarfer canu'r piano pan fuasai'n well o lawer gen i fod allan yn chwarae rygbi gyda'r plant eraill.

Yn y gorffennol, pe byddai rhywun yn dymuno chwilio, er enghraifft, am safleoedd yn ymwneud â'r 'piano' (fel teyrnged hwyrach i'n Cadeirydd, Branwen Brian Evans, sydd yn athrawes biano ac yn gyfeilyddes o fri), byddai'r we yn methu â gwahaniaethu rhwng y safleoedd Cymraeg a'r rhai Saesneg.

Yn dâl am hynny, cawsant ddau lun yn anrheg, un o eglwys Sant Ioan yn eiddo iddi hi bellach - yn crogi ar y wal uwchben y piano, ac yn werth cannoedd yn ôl cydnabod i Paul a oedd yn dipyn o arbenigwr.

Roedd fy nhad yn gerddor amatur da iawn - roedd o wedi dysgu ei hun i chwarae'r piano i safon uchel iawn.

Yn ei lyfr Meistri'r Moroedd, y mae Mr Aled Eames yn sôn am y "munudau tawel ar nos braf, ac yn y distawrwydd clywed Mrs Pritchard yn canu'r piano yn y caban a'r Capten yn ei lais bariton cyfoethog yn canu 'The harp that once through Tara's Hall' neu Dafydd y Garreg Wen Claddwyd Mrs Pritchard yn Laurenco Marques a gallwn ddychmygu y tristwch ar y llong ymysg y criw ac yn enwedig tristwch Capten Pritchard o adael ei wraig mewn bedd ar dir estron.

Y cwbl a geir mewn gwirionedd ydi piano a bît ysgafn, a hon o bosib ydi'r gân fwyaf canol y ffordd i Gwacamoli ei chyfansoddi erioed.