Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pigo

pigo

Y mae'r tair merch sydd heddiw, a minnau'n sgrifennu, yng ngharchar Bryste wedi eu rhwystro rhag siarad yn eu mamiaith wrth eu mamau, yn pigo cydwybodau hyd yn oed aelodau seneddol Cymreig y Blaid Lafur.

Wedi mynd i ben uchaf y pentref heb i neb ddweud gair gofynnodd tad Ifan, 'A be sy'n eich pigo chi'ch dau 'te?' 'Gary Jones wedi bod yn plagio Dilwyn,' oedd ateb Ifan.

Wedi blynyddoedd o fywyd trefol collodd JR lawer o'i archwaeth at fwyd cyntefig fel stwnsh rwdan a pheth dieithr iddo bellach oedd gweld sosban ddu wedi ei gorseddu ar ganol bwrdd y gegin, ond yr hyn a'i blinai fwyaf oedd sylwi ar Hywal y mab yn pigo'i drwyn bobo yn ail cegiad.

Wedi dod yn rhydd o'r breichiau cryfion cafodd JR ei lusgo i'r gadair freichiau ger y tân a rhoddodd Laura Elin orchymyn siarp i'w mab Hywal, a eisteddai ar y stôl drithroed, yn pigo'i drwyn, i symud 'i hen betha oddi ar y bwrdd i'r gŵr bonheddig gal tamad yn 'i grombil.

Anadlodd yn ddwfn wrth fynd trwy'r drws a theimlo'r heli'n pigo'i ysgyfaint.

Ardal gwasgarog ydy Bol y Mynydd a'r ffermdai a'r tydynnod wedi eu hau yn blith draphlith dros wyneb y rhostir ac, yn ôl un hen goel, y cawr Odo sy'n gyfrifol am y blerwch Un pnawn mwll cyrcydai Odo ar ysgwydd Mynydd yr Ystum yn ddrwg ei hwyl, a hynny am fod ganddo gorn ar fawd ei droed chwith, a hwnnw'n pigo.

Oherwydd fod ei gydwybod yn pigo, ymddiswyddodd Haydn o'i swydd fel blaenor.

Cofiai Myrddin Tomos am ddefaid yn pryfedu; am eu dwyn i fuarth y fferm, eu dal, torri'r gwlân o amgylch y cynrhon a oedd wedi ymgladddu yn y cnawd, eu pigo allan â'r gwellau a rhwbio pridd melyn yn y man pryfedig.

Bydd pioden y mor a'r pibydd coesgoch i'w weld yn pigo ar y traeth, a hwyaid, mor wenoliaid a gwylanod ar y tonnau.

Dyn y pwll nofio'n dod i Ysgol Fitzalan i achwyn wrth y prifathro 'beutu Sandy a fi; ein bod ni 'di pigo ar ryw grwt bach gwantan - babi mami - o blith y crachach.

(Ond ni weithiodd y washar rioed yn iawn ar y tap ym mhenglog Gruff neu mi fydda fo'n gwneud mwy na dim ond cwyno am hanner awr wedi dau y bore fod y papura bach arian yn pigo'i hen benôl o).

Bydd plentyn sy'n pigo i drwyn yn dioddef o lyngyr.

Roedd rhywbeth yn pigo meddwl Gethin: roedd yn sicr y dylai nabod y lle.